Rydym yn falch ein bod yn gweithio ag Achub y Plant Cymru er mwyn cyd gynnal cyfarfod nesaf ein Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi, a fydd yn rhoi sylw i leisiau a phrofiadau pobl ifanc o stigma tlodi yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad wyneb yn wyneb ar 8 Mai yn rhoi cyfle i grŵp o bobl ifanc o ddwy ysgol yn ne Cymru i rannu canfyddiadau eu prosiect ymchwil am brofiadau pobl ifanc o dlodi ac o stigma tlodi. Byddan nhw hefyd yn trafod atebion polisi gyda’r rhai sy’n creu polisïau, ymarferwyr, academyddion, ymchwilwyr ac arbenigwyr drwy brofiad.
Dywedodd Amanda Hill-Dixon, Uwch Gymrawd Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, “Rydym ni’n edrych ymlaen at gael clywed gan bobl ifanc yn y Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi, ac at gael defnyddio’r hyn a fyddwn ni’n ei ddysgu yn ein gwaith er mwyn mynd i’r afael â stigma tlodi yng Nghymru.
“Cafodd y Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi ei sefydlu’r llynedd er mwyn ceisio dylanwadu ar benderfyniadau lleol a chenedlaethol i fynd i’r afael â stigma tlodi, codi ymwybyddiaeth o naratifau ac arferion sy’n creu stigma, a herio mythau am dlodi. Mae hi’n gwbl allweddol ein bod yn gwrando ac yn deall safbwyntiau pobl ifanc fel rhan o’r broses hon.”
Dywedodd Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru: “Ein prif nod yw sicrhau ein bod yn gwrando ar leisiau a syniadau plant a phobl ifanc, ac yn rhoi llwyfan i’r lleisiau hynny er mwyn rhoi diwedd ar yr anghyfiawnderau a ddaw yn sgil tlodi plant, sy’n effeithio ar fywydau un o bob tri phlentyn yng Nghymru.
“Mae canfyddiadau ein prosiect ymchwil yn dangos fod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o’r pwysau ariannol sy’n wynebu eu haelwydydd a’u cymunedau, yn enwedig y pwysau sydd wedi dod yn sgil yr argyfwng costau byw. Mae’r canfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at y pwysau y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ei roi ar blant, a sut gall peidio â chael digon o arian i ‘brynu’r brand neu’r eitemau cywir’ arwain at gael eich bwlio neu gael cyfoedion yn rhoi pwysau arnoch. Mae hyn yn gallu cael effaith ar iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc, ac yn gwneud iddynt golli eu huchelgais.
“Mae hi’n gwbl allweddol ein bod yn gwrando ar yr hyn sydd gan blant a phobl ifanc i’w ddweud, a’n bod yn defnyddio eu syniadau i wella pethau ar eu cyfer. Rydym yn falch iawn ein bod yn cydweithio ar y digwyddiad hwn er mwyn rhoi llwyfan iddyn nhw ddefnyddio a dangos grym eu llais”
Dyma beth oedd gan rai o’r plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran ym mhrosiect ymchwil Grym Llais Achub y Plant Cymru i’w ddweud am stigma tlodi a’i effaith ar iechyd meddwl:
“Mae pethau sydd wedi eu brandio yn ddrutach ac yn anoddach i’w prynu, ac mae hynny’n gallu gwneud i rywun deimlo nad ydynt yn ddigon da.”
“Os nad oes gennych chi ddigon o arian rydych chi’n gallu cael eich bwlio am nad ydy eich rhieni yn gallu fforddio pethau, ac mae hynny’n achosi straen.”
“Mae angen rhoi mwy o gefnogaeth i blant sydd â phroblemau iechyd meddwl sydd wedi eu hachosi gan brinder arian yn y cartref.”
Mae Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi CPCC yn rhwydwaith ledled y DU o unigolion a sefydliadau sydd â’r nod cyffredin o geisio deall, atal a mynd i’r afael â stigma tlodi yn well. Mae cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ddeall a mynd i’r afael â stigma tlodi yn rhan o raglen waith ehangach Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.
Bydd yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn cael ei chynnal rhwng 12 Mai ac 18 Mai eleni, a’r thema yw ‘cymuned’.
Anfonwch e-bost at info@wcpp.org.uk os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu rhagor am y prosiect hwn neu am ein gwaith yn gyffredinol.