Dan Bristow wedi ei benodi yn Gyfarwyddwr y Ganolfan

Mae’r Athro Dan Bristow wedi ei benodi yn Gyfarwyddwr ar Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Mae Dan wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lywio Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i fod y prif sefydliad brocera gwybodaeth sy’n cynorthwyo llunwyr polisïau lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Fe wnaeth eu helpu i gael gafael ar y dystiolaeth a’r arbenigedd annibynnol awdurdodol gorau sydd ar gael er mwyn cynorthwyo’r ganolfan i fynd i’r afael â heriau ym maes polisi.

Dywedodd, “Mae hi’n fraint cael ymgymryd â rôl y Cyfarwyddwr, a hynny mewn cyfnod mor gyffrous i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.  Dros y 12 mlynedd diwethaf, rydym ni wedi dangos bod rhan allweddol gennym ni i’w chwarae wrth gynorthwyo’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru i gael gafael ar dystiolaeth, ac i ddefnyddio’r dystiolaeth honno i wella’r prosesau a’r arferion o lunio polisïau a’u rhoi ar waith.

Rydym ni’n sefydliad blaenllaw sy’n arwain ar arfer da ym maes cysylltu tystiolaeth arbenigedd a llunio polisïau, ac, er gwaetha’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus a Phrifysgolion ar hyn o bryd, rydym ni’n awyddus iawn i sicrhau bod tystiolaeth yn parhau i fod yn rhan fawr o’r broses o lunio polisïau yng Nghymru.

“Hoffwn ddiolch yn benodol i Steve Martin a James Downe ynghyd â gweddill fy nghyd-weithwyr yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am eu cyfraniad nhw tuag at ddatblygiad y Ganolfan hyd yn hyn. Rwy’n benderfynol o fwrw ymlaen gyda’r gwaith caled sydd eisoes wedi ei wneud er mwyn sefydlu’r Ganolfan yn un o’r canolfannau uchaf ei pharch ym maes tystiolaeth academaidd ar gyfer polisïau yn y Deyrnas Unedig.”

Bu’r athro Steve Martin yn arwain y sefydliad ers ei sefydlu yn 2003. Bu iddo roi’r gorau iddi’r llynedd, ac fe benodwyd yr Athro James Downe i’r swydd dros dro.  Penderfynodd Downe beidio ag ymgeisio am y swydd barhaol gan ddychwelyd at ei gyfrifoldebau fel Cyfarwyddwr Ymchwil.

Dywedodd, “Er fy mod i wedi mwynhau fy nghyfnod fel cyfarwyddwr ar y ganolfan, rwyf i wedi penderfynu canolbwyntio ar arwain tîm ymchwil academaidd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae gennym ni nifer o brosiectau diddorol ar y gweill sy’n edrych ar brosesau a dylanwad sefydliadau brocera gwybodaeth. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghyd-weithwyr er mwyn cyhoeddi syniadau newydd ar y meysydd hyn, a fydd yn gwella’r ffordd y mae’r Ganolfan yn gweithio gyda llunwyr polisïau.”

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.