Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Adolygiad Cyflym o’r Dystiolaeth (RER) i lywio datblygiad canllaw traws Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion.
Cafodd yr adolygiad o dystiolaeth gyhoeddedig ei gynnal gan Rapid Research Evaluation and Appraisal Lab (RREAL) UCL. Roedd yr adolygiad yn ymdrech i ddwyn ynghyd dystiolaeth sydd ar gael sy’n ymwneud â:
- Llesiant ac anghenion a deilliannau addysgol plant a phobl ifanc traws mewn lleoliadau addysg; ac
- effaith polisi a dulliau ymarfer ar drawsnewid cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ar blant a phobl ifanc traws a’u cymheiriaid o ran eu llesiant a’u deilliannau dysgu.
Mae cwestiynau’r ymchwil ar gyfer y prosiect hwn yn canolbwyntio’n benodol ar effaith polisi a dulliau ymarfer ar bontio cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ar lesiant a deilliannau addysgol dysgwyr traws. Heblaw am y cwestiynau ymchwil penodol hyn ar effaith polisi ac ymarfer ysgolion, roedd cwestiynau am effaith bosibl trawsnewid cymdeithasol ei hun ar ddeilliannau tymor hir plant a phobl ifanc y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad hwn.
Mae’r adolygiad wedi’i seilio ar ddull methodolegol trylwyr a thryloyw sefydledig sydd wedi’i ddatblygu i leihau’r posibilrwydd o ragfarn, ac mae canlyniad yr adolygiad wedi bod drwy broses adolygu gan gymheiriaid gan bedwar o arbenigwyr pwnc a methodolegol gyda safbwyntiau a phersbectifau amrywiol ar gwestiynau’r ymchwil.
Y prif ganfyddiadau
Canfu’r adolygiad fod plant a phobl ifanc traws yn dueddol o brofi llesiant a deilliannau gwaeth mewn lleoliadau addysg o’i gymharu â’u cymheiriaid.
Mae plant a phobl ifanc traws yn fwy tebygol o brofi erledigaeth gan gymheiriaid, o deimlo’n anniogel yn yr ysgol, o ddefnyddio sylweddau, profi canlyniadau iechyd meddwl gwael, gan gynnwys hunan-niweidio a synio am hunanladdiad. Roedd plant a phobl ifanc traws hefyd yn profi perfformiad academaidd, presenoldeb ac ymgysylltiad gwaeth na’u cymheiriaid ac roeddent yn llai tebygol o gynllunio neu fynd ymlaen i addysg ôl-uwchradd.
Mae’r dystiolaeth yn dangos bod plant a phobl ifanc traws, fel pob plentyn a pherson ifanc, sy’n teimlo eu bod yn cael cefnogaeth yn yr ysgol ac yn cael eu gwarchod rhag bwlio ac aflonyddu’n dangos gwell deilliannau addysgol a llesiant na rhai nad ydynt yn cael cefnogaeth o’r fath.
Fodd bynnag, canfu’r adolygiad fod plant a phobl ifanc traws yn llai tebygol na’u cymheiriaid o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn yr ysgol, ac, yn ail, y gall agweddau ysgolion tuag at drawsnewid cymdeithasol chwarae rhan yn hyn.
Mae’r llenyddiaeth yn cynnwys dangosyddion rhagarweiniol fod dulliau polisi ac ymarfer cadarnhaol – er enghraifft, rhai sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc traws i ddefnyddio’r enw a rhagenw o’u dewis yn yr ysgol, neu wisgo dillad neu steil gwallt sy’n cyd-fynd â’r rhywedd maent wedi’u bennu iddynt eu hunain – yn gallu chwarae rhan i wella llesiant a deilliannau addysgol plant a phobl ifanc traws. Fodd bynnag, er bod yr astudiaethau a adolygwyd wedi’u hasesu fel rhai o ansawdd uchel ar y cyfan, mae’n bwysig nodi eu bod gan amlaf wedi defnyddio dyluniadau croestoriadol. Mae hyn yn golygu er eu bod wedi canfod cysylltiad sy’n arwyddocaol yn ystadegol rhwng ffactorau ysgol a deilliannau myfyrwyr traws, nid oeddent yn gallu dangos y perthnasoedd achosol sylfaenol. Mae hyn yn dangos yr amgen am ragor o ymchwil.
Mae’r adolygiad yn amlygu bylchau sylweddol mewn tystiolaeth gan gynnwys effeithiau polisi a dulliau ymarfer addysgol gwahanol yn achos trawsnewid cymdeithasol ar gymheiriaid cisryweddol myfyrwyr traws. Mae prinder astudiaethau hefyd sy’n edrych ar brofiadau plant a phobl ifanc traws anabl, a phlant a phobl ifanc traws ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd canfyddiadau’r adolygiad yn cael eu hystyried ochr yn ochr ag ymgysylltiad â rhanddeiliaid a thystiolaeth ehangach i lywio canllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol i helpu plant a phobl ifanc traws mewn lleoliadau addysg.