Gall cynnwys arbenigwyr-drwy-brofiad mewn gyrru gwybodaeth (knowledge mobilisation) helpu i wella’r effaith ar bolisi ac ymarfer, yn ogystal â chefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Ond mae hefyd yn creu risgiau a heriau y mae angen eu hystyried a mynd i’r afael â nhw.
Dyma rai o’r pethau sydd wedi deillio o Gymrodoriaeth 18 mis sydd wedi’i hariannu gan UKRI ac wedi’i gwreiddio yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, i gefnogi Canolfannau ‘What Works’ a sefydliadau brocera gwybodaeth eraill sy’n ceisio pontio’r bwlch rhwng tystiolaeth academaidd a llunio polisïau.
Y prif ganfyddiadau:
- Mae defnyddio dulliau strategol a cynhwysol sydd ag adnoddau helaeth, i gynnwys arbenigwyr-drwy-brofiad yn gallu helpu i wella perthnasedd, effaith a chynhwysiant gweithgareddau rhoi gwybodaeth ar waith pan fydd amodau penodol yn cael eu bodloni.
- Mae sicrhau cyfranogiad moesegol ac ystyrlon arbenigwyr-drwy-brofiad yn hanfodol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y buddion hyn a lleihau niwed posibl.
- Mae heriau allweddol y dull hwn yn cynnwys delio â damcaniaethau cyferbyniol ynghylch newid, risgiau i lesiant, cynnal momentwm, cydbwyso profiadau unigol a dilysrwydd gwybodaeth yn allanol, a sicrhau arferion moesegol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â thâl.
Canfu’r ymchwil fod yr arferion canlynol yn gallu helpu i oresgyn yr heriau hyn:
- Ymarfer moesegol (fel diogelu, ymreolaeth, tâl, cefnogaeth a chydsyniad);
- Eglurder a thryloywder ynghylch pwrpas, rôl a graddau’r cyfranogiad;
- Datblygu perthynas ddwyffordd a pherthynas o ymddiriedaeth gydag arbenigwyr-drwy-brofiad;
- Amser ac adnoddau digonol; ystyried y dull hwn o’r cychwyn cyntaf;
- Llwybr at effaith o’r cychwyn cyntaf; ac
- Ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o ran pwy sy’n cymryd rhan, pam a sut.
Cafodd y Gymrodoriaeth, dan arweiniad Dr Rounaq Nayak, ei chynnal gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru – gyda chefnogaeth a chyngor gweithgor sy’n cynnwys y Ganolfan Heneiddio’n Well, Sefydliad Youth Futures, y Ganolfan Effaith Digartrefedd, Sefydliad Joseph Rowntree a Chanolfan Dystiolaeth y Polisi Caethwasiaeth Fodern.
Dywedodd Dr Nayak, “Mae cynnwys arbenigwyr-drwy-brofiad yn y broses o roi gwybodaeth ar waith yn ymwneud â mwy na chynhwysiant yn unig, mae hefyd yn golygu gwella perthnasedd, dilysrwydd a defnyddioldeb tystiolaeth ar gyfer polisi. Pan fo profiad uniongyrchol yn cael ei gydnabod fel math o arbenigedd, gall hyn herio tybiaethau sy’n trechu, llunio argymhellion sydd â sail fwy cadarn, a chefnogi gwell penderfyniadau. Fel hwyluswyr a broceriaid gwybodaeth, mae cyfrifoldeb arnom i greu mannau lle gall gwahanol fathau o wybodaeth lywio polisïau a dylanwadu arnynt mewn ffyrdd ystyrlon, moesegol ac effeithiol.”
Dywedodd Amanda Hill-Dixon, Uwch Gymrawd Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, “Er bod broceriaid gwybodaeth fel arfer yn pontio dau fyd – ymchwil academaidd a pholisi/ymarfer – mae dull cyfranogol yn gofyn am ddelio â llawer mwy o safbwyntiau a ffynonellau gwybodaeth, sy’n gallu gwneud y broses yn fwy cymhleth ond hefyd yn fwy boddhaus.
Mae’r wybodaeth o’r Gymrodoriaeth hon, ynghyd â’r wybodaeth o’n hymarfer ein hunain yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn dangos sut y gall cyfranogiad arbenigwyr-drwy-brofiad – yn yr amgylchiadau cywir – helpu i gryfhau gwaith sefydliadau brocera gwybodaeth. Fodd bynnag, rhaid ystyried y risgiau sy’n gysylltiedig â’r dull hwn a nodir gan yr ymchwil – gan gynnwys y risgiau i’r arbenigwyr-drwy-brofiad eu hunain – a’u rheoli’n ofalus.”