Penderfyniadau hollbwysig yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd llywodraeth leol

CLICIWCH YMA i ddarllen y papur sefyllfa ac YMA i gwblhau’r arolwg.

Mae’r Gweithgor Annibynnol ar Lywodraeth Leol Gynaliadwy ar gyfer y Dyfodol – sy dan arweiniad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru mewn cydweithrediad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – wedi cyhoeddi cyfres o ganfyddiadau interim ynghylch dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru ac mae’n gwahodd adborth o bob rhan o’r sector.

Mae’r cynigion cynnar y Gweithgor yn canolbwyntio ar sut gall cynghorau ddiogelu eu hunain at y dyfodol yn wyneb pwysau a galw cynyddol yn dod ag arweinwyr cynghorau, prif weithredwyr ac arbenigwyr annibynnol at ei gilydd.

Mae’r grŵp wedi cyhoeddi papur sefyllfa cychwynnol sy’n edrych ar ddiben craidd a swyddogaethau allweddol llywodraeth leol yng Nghymru, gan dynnu sylw at rai dewisiadau a chyfaddawdau hollbwysig y bydd angen eu gwneud i sicrhau y gall cynaliadwyedd cynghorau yn y dyfodol barhau i gyflawni ar gyfer eu cymunedau.

Dyma rai o ddatganiadau sefyllfa allweddol y gweithgor:

Democratiaeth leol yw pwrpas craidd a gwerth llywodraeth leol yng Nghymru.
Drwy fod yn ‘agos’ at eu poblogaethau, gall cynghorau gynllunio a darparu gwasanaethau sy’n ymateb i gyd-destunau lleol. Fodd bynnag, oherwydd pwysau cynyddol ar gyllidebau ac adnoddau, mae llywodraeth leol yn ei chael hi’n anodd ymateb i flaenoriaethau lleol. Mae hyn yn cyfyngu ar allu cynghorau i sicrhau newid ystyrlon i’w cymunedau.

Heb fuddsoddiad pellach sylweddol, mae llywodraeth leol yn anghynaliadwy yng Nghymru.
Mae llywodraeth leol yn wynebu cyfres o bwysau difrifol. Gwasanaethau cymdeithasol, addysg a thai sydd amlycaf yng ngwariant awdurdodau lleol ac mae pwysau cost wedi codi’n sylweddol gyda chwyddiant a chodiadau cyflog. Y canlyniad yw bod swyddogaethau ‘creu lleoedd’ sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lesiant cymunedau yn cael eu gwasgu allan.

Mae angen i ofal cymdeithasol gael ei ariannu a’i ddarparu’n wahanol, ac integreiddio’n well ag iechyd, ond fe ddylai aros o fewn cyfrifoldeb awdurdodau lleol.

Heb fuddsoddiad sylweddol gan y llywodraeth ganolog, ni fydd unrhyw newidiadau i gyllid lleol a’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn arwain at newid llawer ar y canlyniadau i breswylwyr.

Mae angen integreiddio cyfrifoldebau iechyd cyhoeddus, sy’n cael eu dal gan y byrddau iechyd ar hyn o bryd, â phenderfyniadau awdurdodau lleol.
Byddai rhoi’r cyfrifoldeb dros redeg gwasanaethau iechyd cyhoeddus i gynghorau yn debygol o greu problemau o ran graddfa i rai cynghorau llai am nad oes ganddynt ddigon o adnoddau.

Mae cynghorau mewn sefyllfa unigryw i ddarparu polisïau iechyd ataliol.
Nid oes digon o adnoddau ar gyfer ymyrryd yn gynnar ac atal gan fod cyfran gynyddol o’r adnoddau sydd ar gael yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghenion acíwt.

Gan nad oes awydd i lwyr newid swyddogaethau neu strwythur sylfaenol llywodraeth leol yng Nghymru, mae’n rhaid i fodelau cyflawni newid.
Mae angen cyflawni rhai swyddogaethau’n wahanol gan ddefnyddio technoleg newydd a/neu drwy gydweithio sy’n seiliedig ar flaenoriaethau cyffredin.

Mae’r Grŵp wedi cyhoeddi arolwg i ganfod barn rhanddeiliaid llywodraeth leol ynglŷn â’r safbwyntiau a nodir uchod.

Dywedodd yr Athro Steve Martin, cadeirydd annibynnol y Gweithgor, “Mae’n amlwg o’r gwaith cychwynnol mae’r Grŵp wedi’i wneud bod angen mwy o gyllid ar frys ar awdurdodau lleol ond bod hefyd angen datblygu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol os ydyn nhw am fod yn gynaliadwy yn y blynyddoedd i ddod. Rydyn ni’n gofyn am adborth ar gasgliadau cychwynnol y Grŵp i brofi a ydynt yn cael eu rhannu gan deulu llywodraeth leol ledled Cymru ac er mwyn i ni allu dechrau datblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu pob cyngor”.

Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Llefarydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Fynwy:

“Rydyn ni’n ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ond y gwir amdani yw bod cynghorau dan bwysau aruthrol. Ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi, mae’r sector cyfan mewn sefyllfa anodd.

“Daw’r gweithgor hwn â phrofiad, arloesedd ac uchelgais ynghyd o bob rhan o’r sector i archwilio ffyrdd newydd o weithio a all gryfhau gwasanaethau cyhoeddus a’n helpu i gyflawni ar gyfer ein cymunedau nawr ac yn y blynyddoedd i ddod. Dyma gyfle i weithio gyda’n gilydd, i feddwl yn wahanol, ac i siapio dyfodol cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol.”

CLICIWCH YMA i ddarllen y papur sefyllfa ac YMA i gwblhau’r arolwg.

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.