Ymchwil CPCC yn cael ei ymddangos mewn cynhadledd polisi cyhoeddus rhyngwladol

Bydd ymchwil gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn ymddangos yn y seithfed Gynhadledd Ryngwladol ar Bolisi Cyhoeddus yn Chiang Mai, Gwlad Thai, yr wythnos hon (2-4 Gorffennaf 2025).

Bydd yr Athro James Downe o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Dr Eleanor MacKillop a Dr Hannah Durrant yn cadeirio trafodaeth banel dros ddau ddiwrnod a fydd yn canolbwyntio ar Ddefnyddio tystiolaeth: gwybodaeth empirig ar arferion gyrru gwybodaeth a’r ffordd y mae’r arferion hyn yn dylanwadu ar benderfyniadau.

Mae’r panel yn rhoi cyfle i ni rannu ymchwil ar arferion sefydliadau broceru gwybodaeth (KBO) fel Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, gan fanylu ar y ffordd y mae’r arferion hyn yn dylanwadu ar benderfyniadau. Yn ystod y ddau ddiwrnod bydd ymchwilwyr yn rhoi cyflwyniadau amrywiol ar waith a chyfraniad sefydliadau broceru gwybodaeth. Bydd y cyflwyniadau hyn yn cynnwys, Rôl sefydliadau broceru gwybodaeth wrth bontio’r bwlch rhwng ymchwil â pholisi (gan Rosalind Phillips o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Hannah Durrant, James Downe, Steve Martin a Grace Piddington); Rôl profiad bywyd yn y gwaith o yrru gwybodaeth er mwyn creu polisïau (gan Dr Rounaq Nayak, Katie Crompton, Amanda Hill-Dixon ac Alexander Jones); Sut i ganfod faint o ddylanwad y mae’r broses gyrru gwybodaeth yn ei chael (gan Dr Findlay Smith, Hannah Durrant a James Downe), a’r Dylanwad y mae sefydliadau broceru gwybodaeth, fel Canolfannau What Works, yn ei gael yn y DU (gan Dr Eleanor MacKillop, Ioana Filipas a James Downe).

Bydd y tîm yn cael cwmni ymchwilwyr sy’n gweithio ledled y byd, gan gynnwys Canada, Awstralia, Brazil a phob rhan o Ewrop. Mae’r ymchwilwyr hyn i gyd wrthi’n cynnal ymchwil newydd ac arloesol ar y ffordd y mae defnyddio tystiolaeth ac arbenigedd yn effeithio ar bolisïau a gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd yr athro Downe, cyfarwyddwr ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, “Dyma gyfle gwerth chweil i rannu ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru sy’n rhoi gwybodaeth ac yn tynnu sylw at ein dull gyrru gwybodaeth; dull yr ydym ni wedi ei ddatblygu a’i wella ar ôl treulio dros ddeng mlynedd yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i gael gafael ar dystiolaeth a’i rhoi ar waith wrth wneud penderfyniadau.

Rhagor o wybodaeth am y gynhadledd ac am ein panel:

Cynhadledd: https://www.ippapublicpolicy.org/conference/icpp7-chiang-mai-2025/

Panel: https://www.ippapublicpolicy.org/conference/icpp7-chiang-mai-2025/panel-list/21/panel/evidence-use-empirical-insights-on-practices-and-impact-of-knowledge-mobilisation-on-decision-making/1703

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.