Abdool Kara
Mae Abdool yn Gyfarwyddwr Gweithredol yn y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, gan arwain holl waith y Swyddfa Archwilio Genedlaethol sy’n ymwneud ag iechyd, addysg, llywodraeth leol a’r Swyddfa Gartref, rôl y mae wedi’i chyflawni er mis Chwefror 2017.
Cyn hyn, bu’n Brif Weithredwr ar Gyngor Bwrdeistref Swale am saith mlynedd a chyn hynny treuliodd bedair blynedd fel Prif Weithredwr Cynorthwyol ym Mwrdeistref Merton, Llundain. Mae Abdool hefyd wedi gweithio i’r Comisiwn Archwilio mewn gwahanol rolau, gan gynnwys Rheolwr Gweithrediadau’r Arolygiaeth Tai a Phennaeth Polisi’r Asesiad Perfformiad Cynhwysfawr. Treuliodd flwyddyn hefyd fel cynghorydd arbennig i Swyddfa’r Cabinet. Cyn hynny, bu’n gweithio am ddeng mlynedd mewn llywodraeth leol yn Llundain, ym Mwrdeistref Ealing, gan arbenigo mewn strategaeth digartrefedd a thai, ac yng Nghorfforaeth Dinas Llundain, lle bu’n arwain ar reoli perfformiad.
Mae gan Abdool BSc mewn Economi Wleidyddol o Goleg y Brifysgol, Llundain; MSc mewn Astudiaethau Datblygu o Brifysgol Caerfaddon; ac MSc mewn Tai o Ysgol Economeg Llundain.
Mae hefyd yn aelod anweithredol o Fwrdd Cymdeithas Tai Gorllewin Caint.