Charlotte Morgan
Mae Charlotte Morgan yn Swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), ar ôl ymuno â’r tîm fel Prentis Ymchwil yn 2022.
Mae Charlotte wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau ar gyfer WCPP, yn enwedig o fewn meysydd blaenoriaeth Lles Cymunedol ac Anghydraddoldebau'r Ganolfan. Mae hynny’n cynnwys ymchwil barhaus i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i ddeall a mynd i’r afael â stigma sy’n gysylltiedig â thlodi, ac ymchwil i rôl cydweithredu amlsector wrth gefnogi gweithredu a llesiant cymunedol.
Yn ddiweddar, cynhaliodd Charlotte ymchwil gyda chydweithwyr gan ddefnyddio methodoleg Q i archwilio’r canfyddiadau o dystiolaeth gan weithredwyr polisi ar lefel leol a chenedlaethol yng Nghymru.
Cyn ymuno â’r Ganolfan, bu Charlotte yn gweithio fel Cydlynydd Polisi a Materion Cyhoeddus i Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru lle bu’n ymwneud ag ymgyrchoedd polisi, megis Bias a Bioleg: Y Bwlch Rhwng y Rhywiau o ran Trawiad ar y Galon. Mae ganddi ddiddordeb hefyd yn y dirwedd ymchwil feddygol yng Nghymru, a chyn hynny bu’n darparu ysgrifenyddiaeth i’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol fel rhan o’i rôl yn Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru.
Mae gan Charlotte MA mewn Heriau Byd-eang: Y Gyfraith, Polisi ac Ymarfer o Brifysgol Abertawe. Ffocws Charlotte drwy gydol y rhaglen oedd ymchwilio i gyfraith a pholisi mewn perthynas â thlodi plant yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys cyfle i fynd ar leoliad gydag Achub y Plant, y bu Charlotte yn gweithio gyda nhw i gynhyrchu adroddiad ar lwybrau polisi tlodi plant yng Nghymru.