Cheryl Moore
Ymunodd Cheryl Moore â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) yn 2024, yn arwain tîm y gwasanaethau proffesiynol i gefnogi gwaith y Ganolfan. Mae ganddi brofiad gyrfa amrywiol dros 16 o flynyddoedd mewn prifysgolion ac yn y sectorau cyhoeddus a’r sectorau preifat.
Cyn iddi ymuno â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, roedd hi’n rheolwr rhaglen y Gronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gwerth £10 miliwn, cytundeb rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i gefnogi cyrff cyhoeddus yn Ne-ddwyrain Cymru i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol gan greu atebion newydd ar y cyd â darparwyr atebion arloesol. Mae rhaglen y Gronfa Her wedi cefnogi pum her o bwys ac wedi creu llawer o ddiddordeb ar draws rhanbarthau eraill yn y DU a’r tu hwnt, gan roi enghraifft yn y byd go iawn sydd a’r gallu i lywio dull sy’n canolbwyntio ar genhadaeth i drefnu polisïau a gweithgareddau’r llywodraeth.
Cyn hynny roedd Cheryl yn Rheolwr Arloesedd yn y bartneriaeth SETsquared, ac yn gweithio ar draws chwe phrifysgol yn y DU i ddatblygu cysylltiadau allanol ar gyfer ymchwil ac arloesedd ar y cyd, ac i’w sicrhau.
Mae hi wedi’i hachredu i reoli rhaglenni a phrosiectau (MSP, APMQ a Prince2) ac yn aelod o’r Sefydliad Rheoli Prosiectau. Mae ganddi MBA a BA Hons dosbarth cyntaf mewn Gweinyddu Busnes.