Greg Notman
Mae Greg Notman yn Swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), ar ôl ymuno â’r tîm fel Prentis Ymchwil yn 2021.
Mae Greg wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau i WCPP, yn enwedig ym maes blaenoriaeth yr Amgylchedd a Sero Net. Mae hyn yn cynnwys gwaith i gefnogi datblygiad Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net Llywodraeth Cymru, a gwaith ehangach WCPP yn darparu cefnogaeth tystiolaeth annibynnol i Grŵp Her Sero Net Cymru 2035.
Mae ganddo MSc trwy Ymchwil mewn Gwyddor Gymdeithasol a Gwleidyddol, ac MA (Anrh) mewn Gwleidyddiaeth, y ddau o Brifysgol Caeredin. Cyn ymuno â WCPP, bu Greg yn gweithio fel Cynorthwyydd Ymchwil yn y Labordy Ymchwil Niwrowleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caeredin.