Dr Hannah Durrant
Mae Dr Hannah Durrant yn Uwch Gymrawd Ymchwil a Chyfarwyddwr Rhaglen yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP). Mae Hannah yn arwain gwaith WCPP ar les cymunedol, gan gynhyrchu tystiolaeth berthnasol ac effeithiol i Lywodraeth Cymru, gwasanaethau cyhoeddus ac arweinwyr cymunedol ar ysgogi gweithredu cymunedol i ddiwallu angen a gwella cysylltiad cymdeithasol. Mae hi hefyd yn arwain ymchwil ac ymarfer y Ganolfan ar grynhoi gwybodaeth a llunio polisïau ar sail tystiolaeth.
Ymhlith y prosiectau diweddar mae Hannah wedi’u harwain mae:
- Rhaglen waith ar rôl cymunedau, gwirfoddoli a chydweithio amlsector wrth wella lles, i lywio gwaith y Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar ac arweinwyr ehangach y sector cyhoeddus a’r trydydd sector ledled Cymru.
- Adolygiad mawr o dystiolaeth ar anghydraddoldeb unigrwydd a dadansoddiad o ddata ar unigrwydd yng Nghymru i lywio ymyriadau unigrwydd cenedlaethol a lleol.
- Ymchwil ar gyfuno dulliau ar-lein ac all-lein o ymdrin â gwasanaethau llesiant cymunedol, i gefnogi darpariaeth gwasanaethau a strategaeth gwasanaeth cyhoeddus digidol a chynhwysiant.
Mae hi hefyd wedi cyhoeddi erthygl mynediad agored yn ddiweddar ar Wella’r defnydd o dystiolaeth: adolygiad cwmpasu systematig o fodelau lleol o roi gwybodaeth ar waith yn y Journal of Evidence & Policy.
Mae gan Hannah gefndir mewn arwain a threfnu ymchwil i lywio polisi a gwasanaeth cyhoeddus. Yn flaenorol bu’n goruchwylio rhaglen ymchwil y Sefydliad Ymchwil Polisi ym Mhrifysgol Caerfaddon ac yn arwain nifer o brosiectau a gyd-gynhyrchwyd ar ddefnyddio data cysylltiedig i lywio polisi a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ar lefel leol, ymgysylltu â’r cyhoedd, rhagnodi cymdeithasol, gofal cymdeithasol, a pholisi datblygu gweithlu a sgiliau.
Mae'n Is-Gadeirydd Rhwydwaith Ymgysylltu Polisi'r Prifysgolion (UPEN) ac yn Gymrawd Cyswllt o'r Academi Addysg Uwch.