Josh Coles-Riley
Mae Josh Coles-Riley yn Gydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn gweithio ar draws tri maes blaenoriaeth y Ganolfan, sef lles cymunedol, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, a’r amgylchedd a sero net.
Ymhlith y prosiectau diweddar y mae wedi gweithio arnynt yn y Ganolfan mae:
- Ymchwil barhaus i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i ddeall a mynd i’r afael â stigma sy’n gysylltiedig â thlodi
- Adolygiad tystiolaeth rhyngwladol ar natur ac achosion anghydraddoldebau unigrwydd
- Prosiect mewnol i archwilio a datblygu sut rydym yn tynnu ar dystiolaeth profiad bywyd ac arbenigedd yn ein gwaith
- Crynodebau ymchwil a thystiolaeth i gefnogi gwaith Grŵp Her Sero Net 2035
Mae cefndir Josh mewn ymchwil a gwerthuso cyfranogol, dylunio gwasanaethau a defnyddio tystiolaeth mewn gwasanaethau trydydd sector a chymunedol, gyda diddordebau penodol mewn cydgynhyrchu, datblygu cymunedol, dulliau cyfranogol a democratiaeth gydgynghorol.