Lowri O'Donovan

Lowri O'Donovan

Ymunodd Lowri O'Donovan â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) yn 2024. Cyn ymuno â'r tîm, cwblhaodd Lowri ei PhD a bu’n gweithio mewn gwahanol rolau ymchwil yn yr Ysgol Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar ffactorau risg amgylcheddol ar gyfer datblygu cyflyrau iechyd meddwl, a’r heriau o ran mynediad at wasanaethau cyhoeddus, megis iechyd meddwl a gwasanaethau cymorth addysgol ychwanegol.

Mae ganddi brofiad o gynnwys y cyhoedd a rhanddeiliaid proffesiynol ac ymgysylltu ag ymchwil. Mae ganddi hefyd brofiad rannu gwybodaeth rhwng y sectorau, yn benodol rhwng y byd academaidd a’r sector gwirfoddol, ac mae wedi arwain partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Cerebra.

Mae gan Lowri ddiddordeb arbennig mewn ymchwil drosi, cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd ag ymchwil, a gwaith ymchwil sy'n ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd.

Wales Centre for Public Policy

lowri.odonovan@wcpp.org.uk

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.