Dr Paul Vallance
Mae Dr Paul Vallance yn Gydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP). Mae ei waith yn canolbwyntio ar bolisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth, arferion cynnull gwybodaeth, a ffyrdd y gellir diffinio sefydliadau brocera gwybodaeth fel WCPP, cynllunio ar eu cyfer, a’u gwerthuso.
Mae gan Paul gefndir fel ymchwilydd prifysgol ym maes datblygu economaidd rhanbarthol. Cyn ymuno â WCPP, bu’n gweithio ym Mhrifysgol Newcastle, Prifysgol Sheffield, a Phrifysgol Birmingham. Mae ei PhD mewn daearyddiaeth economaidd, ond roedd llawer o’i ymchwil dilynol yn canolbwyntio ar rôl prifysgolion yn natblygiad y dinasoedd a’r rhanbarthau y maent wedi’u lleoli ynddynt. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys cymysgedd o brosiectau academaidd, polisi a gwerthuso ar draws gwahanol ranbarthau'r DU a'r Undeb Ewropeaidd. Ar sail hynny mae wedi datblygu diddordeb mwy cyffredinol yn y prosesau sefydliadol sy'n llywio'r broses o gynhyrchu gwybodaeth wyddonol a'i defnydd ym maes polisi cyhoeddus.
Mae Paul yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn Gymrawd y Gymdeithas Astudiaethau Rhanbarthol.