Rosie Havers
Mae Rosie Havers yn Gynorthwyydd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), ac ymunodd â’r tîm ym mis Hydref 2020.
Cyn ymuno â WCPP bu Rosie yn gweithio ar ystod o brosiectau, o ddatblygu adnoddau dysgu rhifedd, llythrennedd ac awyr agored i ysgolion, i adolygiad systematig ar fioddiraddadwyedd plastigau gyda Chyngor Gwyddoniaeth ar gyfer Polisi gan Academïau Ewropeaidd. Cyn hynny, bu Rosie yn athrawes ysgol gynradd. Bu hefyd yn cynnal ystod o raglenni garddio a dysgu awyr agored mewn ysgolion yng Nghymru, Lloegr, Canada ac UDA, ac yn ymchwilio iddynt.
Mae gan Rosie gefndir mewn Daearyddiaeth, gyda BA (Anrh.) o Brifysgol Caergrawnt ac MSc mewn Bwyd, Gofod a Chymdeithas o Brifysgol Caerdydd.
Diddordebau ymchwil Rosie yw systemau bwyd cynaliadwy a diogelwch bwyd, addysg a dysgu awyr agored, a chyfathrebu digidol.
Blogiau Rosie ar gyfer WCPP: