Dr Rounaq Nayak

Mae Dr Rounaq Nayak yn Gymrawd Ymchwil Polisi ESRC ar secondiad i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) o Brifysgol Bournemouth, lle mae’n gweithio fel Uwch Ddarlithydd mewn Cynaliadwyedd.

Mae eu rôl yn cynnwys gwella dealltwriaeth, galluoedd, a sgiliau cynhyrchwyr tystiolaeth, ymchwilwyr polisi, llunwyr polisi, ac ymarferwyr wrth gynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd yn eu gwaith. Mae'r Gymrodoriaeth yn gydweithrediad 18 mis rhwng Dr Nayak, WCPP, a thair Canolfan Beth Sy'n Gweithio arall - y Ganolfan Heneiddio'n Well, Sefydliad Dyfodol Ieuenctid a'r Ganolfan Effaith Digartrefedd.

Mae Rounaq yn frwd dros archwilio’r berthynas o’r ddeutu rhwng sefydliadau a chymunedau lleol, dadansoddi eu dylanwad cilyddol, ac astudio’r goblygiadau cynaliadwyedd. Fel arbenigwr ar ffactorau dynol a daearyddwr dynol, mae Rounaq wedi gweithio ar brosiectau yn y sectorau bwyd-amaeth a gofal iechyd, gan flaenoriaethu dull o wella gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar bobl. Mae eu diddordeb ymchwil yn ymwneud â gwella gwytnwch y system bwyd-amaeth fyd-eang yn wyneb heriau fel tlodi bwyd, llafur gorfodol, a masnachu carbon trwy fabwysiadu dull systemau o ddylunio polisïau.

Wales Centre for Public Policy

rounaq.nayak@wcpp.org.uk

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.