Fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae cymunedau yn ased hanfodol ac yn bartner i’r llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol er mwyn cyflawni uchelgeisiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cyfunol Cymru. Mae cydweithio rhwng y sector cyhoeddus a chymunedau wedi datblygu’n dda mewn ymateb i bandemig Covid-19 , ac oherwydd bod capasiti gwasanaethau cyhoeddus wedi lleihau mae’n parhau’n hollbwysig er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, mynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol, a chyflawni ein nodau amgylcheddol.
Gan adeiladu ar gorff o waith i ddarparu gwybodaeth ar gyfer dulliau’r sector cyhoeddus o fynd i’r afael ag unigrwydd yng Nghymru, fel aelod craidd o’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar, rydym bellach yn darparu tystiolaeth ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ehangach er mwyn galluogi cydweithio effeithiol rhwng y sector cyhoeddus a’r sector cymunedol yng Nghymru fel mecanwaith allweddol i gryfhau llesiant cymunedol.
Os ydych yn lluniwr polisi neu ymarferydd sy’n chwilio am dystiolaeth fel sail i’ch gwaith mewn cysylltiad â llesiant cymunedol, anfonwch ebost i info@wcpp.org.uk i ddarganfod sut y gallem helpu.