Mae mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau amrywiol sy’n bodoli yng Nghymru yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu llunwyr polisi ar bob lefel o lywodraeth.
Er gwaethaf ymdrechion parhaus i fynd i’r afael â thlodi, mae Cymru yn un o rannau tlotaf y DU o hyd – mae tua 30% o blant Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol – a’r rhai tlotaf yw’r rhai mwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan wahanol fathau o anfanteision sy’n gysylltiedig ag iechyd, addysg, cyflogaeth ac allgáu cymdeithasol.
Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru, llywodraethau lleol a gwasanaethau cyhoeddus ehangach yng Nghymru i roi sylw i anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd drwy ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd annibynnol ac awdurdodol ynglŷn â maint a natur anghydraddoldebau yng Nghymru, yn ogystal â beth y gellir ei wneud er mwyn mynd i’r afael â hwy. Rydym hefyd yn darparu tystiolaeth i gefnogi eu nod o sicrhau bod Cymru yn cynnwys pawb, beth bynnag eu cefndir neu nodweddion gwarchodedig.
Os ydych yn lluniwr polisi neu’n ymarferydd yn chwilio am dystiolaeth fel sail i’ch gwaith mewn cysylltiad â mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, anfonwch ebost i info@wcpp.org.uk i ddarganfod sut y gallem helpu.