Nid bygythiad yn y dyfodol yw argyfwng hinsawdd a natur mwyach; rydym yn gweld effaith newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol ar gymunedau, busnesau a chartrefi Cymru fwy a mwy. Y degawd diwethaf yw’r un cynhesaf a gofnodwyd erioed, ac mae wedi effeithio ar lawer o sectorau o’r gymdeithas yng Nghymru. Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru bydd nifer yr eiddo yng Nghymru sy’n wynebu perygl llifogydd yn cynyddu 34% i 389,731 dros y ganrif nesaf.
Mae mynd i’r afael â’r heriau hyn yn her strategol a gweithredol fawr i lunwyr polisi ar bob lefel yn ogystal â’r sector preifat a’r trydydd sector, ac mae perygl y gallai’r costau ddisgyn yn anghymesur ar ysgwyddau’r rhai sydd eisoes yn wynebu anawsterau mawr.
Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus ehangach yng Nghymru drwy ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd annibynnol ac awdurdodol sy’n cefnogi eu hymdrechion i leihau allyriadau carbon ym mhob sector ac adeiladu economi wyrddach drwy wella addysg, sgiliau a chyflogaeth mewn ffordd sydd o fudd i gymdeithas Cymru yn ei chyfanrwydd.
Os ydych yn lluniwr polisi neu’n ymarferydd sy’n chwilio am dystiolaeth fel sail i’ch gwaith mewn cysylltiad â’r Amgylchedd a Sero Net, anfonwch ebost i info@wcpp.org.uk i ddarganfod sut y gallem helpu.