Adolygiad Gwariant Llywodraeth Cymru

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraethau ledled y byd wedi bod yn ymgodymu â chymysgedd cymhleth o heriau cyllidol, o ymateb i ddigwyddiadau eithriadol megis pandemig COVID-19, i bwysau cynyddol ar wariant cyhoeddus o ganlyniad ffactorau mwy hirdymor megis poblogaeth yn heneiddio a’r newid yn yr hinsawdd. Mae hyn wedi arwain at ffocws polisi rhyngwladol newydd ar gynaliadwyedd cyllidol, wrth i wledydd ddod allan o gyfnod a ysgogwyd gan yr angen i ymateb i ergydion economaidd, refeniw a gwariant sylweddol ac annisgwyl, a cheisio dychwelyd i lwybr cyllidol hirdymor, sefydlog a phwrpasol.

Fel llawer o gymheiriaid rhyngwladol, mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei bwriad i gryfhau ei dull o ymgorffori safbwynt tymor canolig a hirdymor wrth wneud penderfyniadau cyllidol a chyllidebol. Ym mis Mehefin 2024, cyhoeddwyd y byddai Adolygiad Gwariant nesaf Cymru yn ymestyn ‘y tu hwnt i flaenoriaethau tymor byr i ganolbwyntio ar yr heriau a’r cyfleoedd allweddol yn y tymor canolig i’r tymor hirach’, gan helpu i sefydlu dull llywodraeth gyfan o nodi blaenoriaethau a chyflawni canlyniadau.

I gefnogi’r rhaglen waith hon, gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyfosod tystiolaeth ar arferion gorau rhyngwladol ar gyfer datblygu safbwynt tymor canolig i hirdymor wrth lunio polisïau cyllidol a chyllidebol. Yn benodol, bydd ein hymchwil yn mynd i’r afael â’r cwestiynau ymchwil canlynol:

  1. Sut mae llywodraethau rhyngwladol yn datblygu prosesau a fframweithiau rheoli arian cyhoeddus i alluogi dull tymor canolig i hirdymor o lunio polisïau cyllidol a chyllidebol?
  2. Pa brosesau a fframweithiau rheoli arian cyhoeddus sydd wedi bod yn effeithiol wrth helpu llywodraethau i:
    • rhagweld a chynllunio ar gyfer pwysau gwariant cyhoeddus dros gyfnod o amser hirach; a
    • llywio penderfyniadau cyllidol a chyllidebol tymor agosach yn well i gyflawni canlyniadau polisi tymor canolig a hirdymor?
  3. Pa wersi allweddol ac arferion gorau y gellir eu nodi o’r dulliau hyn, gan ganolbwyntio’n benodol ar:
    • astudiaethau achos o sut mae llywodraethau wedi mynd i’r afael â heriau gwariant cyhoeddus sylweddol drwy gynllunio tymor hirach; ac
    • enghreifftiau rhyngwladol y gellir eu cymharu â Chymru o ran ysgogiadau cyllidol sydd ar gael ar hyn o bryd neu o bosibl ar gael i Lywodraeth Cymru?

Er mwyn ymateb i’r cwestiynau hyn, rydyn ni’n datblygu synthesis o ymchwil sy’n bodoli eisoes ar brosesau rheoli arian cyhoeddus sy’n cefnogi dulliau tymor canolig i hirdymor o lunio polisïau cyllidol a chyllidebol, gan gynnwys Adolygiadau Gwariant, fframweithiau cyllidebol a chyllidol tymor canolig, a mentrau cyllidebol strategol. Byddwn ni’n llunio cyfres o adroddiadau yn sôn am wersi allweddol ac egwyddorion arferion gorau, gan gynnwys enghreifftiau rhyngwladol sy’n tynnu ar astudiaethau achos sydd eisoes wedi’u cyhoeddi. Bydd y rhain ar gael yn ystod gwanwyn 2025.

Yn ogystal, rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i gyflwyno dosbarth meistr arbenigol ar Adolygiadau Gwariant ar gyfer swyddogion yn Nhrysorlys Cymru ym mis Mawrth 2025.

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.