Arferion rhoi gwybodaeth ar waith yn effeithiol

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn sefydliad brocera gwybodaeth sy'n rhoi tystiolaeth ar waith i lywio polisïau ac arferion gwasanaethau cyhoeddus. Er bod y manteision o lunio polisïau ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn rhai sy’n argyhoeddi, nid yw’n glir i ba raddau y maen nhw wedi'u cyflawni. Mae angen rhoi gwybodaeth ar waith yn effeithiol ar gyfer y naill fel y llall, yn enwedig yn lleol lle mae elfennau penodol sy’n dibynnu ar y cyd-destun yn tanseilio honiadau cyffredinol o 'beth sy'n gweithio'. Prin fu’r ymchwil am sut mae prosesau lleol o roi gwybodaeth ar waith, yr arferion y maen nhw’n eu defnyddio a pham, a beth y gellir ei ddysgu ganddyn nhw.

Fe wnaethom gynnal adolygiad cwmpasu systematig o fodelau lleol o roi gwybodaeth waith yn ogystal â chynnal cyfweliadau gyda’r rhai sy’n rhoi gwybodaeth ar waith ar draws y DU. Ein nod oedd mynd i'r afael â'r bylchau hyn o ran deall prosesau ac arferion, a gwella ein dull ein hunain o weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae canfyddiadau ein hadolygiad yn nodi tair nodwedd allweddol o roi gwybodaeth ar waith: mae'n cynnwys meithrin a chynnal perthnasoedd â llunwyr polisïau a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus; mae'n cynnwys integreiddio gwahanol fathau o wybodaeth; ac mae'n cydnabod bod angen teilwra gwybodaeth i gyd-destunau, diwylliant a gallu lleol er mwyn i unigolion, sefydliadau a systemau allu defnyddio tystiolaeth. Mae cyfweliadau gyda’r rhai sy’n rhoi gwybodaeth ar waith yn datgelu'r arferion maen nhw'n eu defnyddio i ddatblygu perthnasoedd, integreiddio gwybodaeth ac ystyried y cyd-destun.  Fe ddaeth i’r amlwg inni bod rhoi gwybodaeth ar waith yn effeithiol yn seiliedig ar: ryngweithiadau cymhleth, ailadroddus, ac anffurfiol ag unigolion a chyrff amrywiol ar draws lleoliadau ymchwil, polisïau ac arferion; integreiddio gwahanol fathau o wybodaeth (gan gynnwys canfyddiadau ymchwil, arbenigedd proffesiynol a phrofiad byw) i greu 'mosaigau tystiolaeth'; ac ymgysylltu parhaus a chyson â'r cyd-destunau lleol a pholisïau penodol lle mae tystiolaeth yn cael ei chymhwyso.

Mae ein canfyddiadau yn hyrwyddo dealltwriaeth o sut y gellir cynllunio camau rhoi gwybodaeth ar waith, yn enwedig yn lleol, i ddefnyddio tystiolaeth yn well mewn polisïau ac ym maes gwasanaeth cyhoeddus.

PAPURAU:

Durrant, H., Havers, R., Downe, J., a Martin, S. (2024). Improving evidence use: a systematic scoping review of local models of knowledge mobilisation. Evidence & Policy 20(3): 370-392 https://doi.org/10.1332/174426421X16905563871215

Mae'r adolygiad hwn yn nodi nodweddion allweddol rhoi gwybodaeth ar waith ar lefel leol. Fodd bynnag, mae hefyd yn datgelu bylchau mewn gwybodaeth am yr arferion a'r prosesau penodol dan sylw, yn ogystal â'r galw am dystiolaeth a'r effaith ar benderfyniadau polisi a gwasanaethau cyhoeddus. I gyd-fynd â chyhoeddi'r papur, fe wnaethom ysgrifennu blog Tystiolaeth a Pholisi o'r enw 'How to do knowledge mobilisation? What we know, and what we don’t’ (Tachwedd, 2023). Mae'r blog hwn yn crynhoi canfyddiadau'r adolygiad. Mae'n pwysleisio gwerth sefydlu nodweddion allweddol rhoi gwybodaeth ar waith er mwyn gwella sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio i lywio polisïau. Fodd bynnag, mae hefyd yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw llenwi'r bylchau o ran yr hyn nad ydym yn gwybod digon amdano; yn benodol, sut mae’r rhai sy’n rhoi gwybodaeth ar waith yn defnyddio'r nodweddion allweddol hyn yn ymarferol.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.