Cyd-gynhyrchu ymchwil gyda llunwyr polisïau a gwasanaethau cyhoeddus

A ninnau’n sefydliad brocera gwybodaeth, mae ein gweithgareddau yn cynnwys gweithio'n agos gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i weld pa dystiolaeth sydd ei hangen arnyn nhw, a sut y gallwn ni ddiwallu'r anghenion hynny. Mae diddordeb gennym mewn gweld a allai'r cysyniad poblogaidd o gyd-gynhyrchu esbonio sut rydym yn gweithio, yn enwedig gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau’n lleol, a helpu i lywio ein gwaith gyda gwasanaethau cyhoeddus.

Yn benodol, mae ddiddordeb gennym yn yr hyn y mae cyd-gynhyrchu yn ei olygu (diffiniad/au), sut a pham mae'n cael ei gyflawni (proses a nodau), ac a yw'n gweithio (effaith). I ateb ein cwestiynau, aethom ati i gynnal adolygiad o lenyddiaeth a oedd yn cynnwys 99 o ffynonellau academaidd a amlygodd y canlynol:

  1. nid oes diffiniad cytunedig o beth yw cyd-gynhyrchu, ac mae’r llu o ystyron sy’n cyd-fodoli yn ei gwneud hi'n anodd gwybod beth yw cyd-gynhyrchu ymchwil.
  2. Mae llu o brosesau a nodau cyd-gynhyrchu hefyd, a cheir achosion o fodelau a fframweithiau'n cael eu datblygu ar gyfer un astudiaeth nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio byth wedi hynny (ceir rhai eithriadau fel Trosglwyddo Gwybodaeth Integredig)
  3. Ceir prinder gwerthusiadau o ymarferion cyd-gynhyrchu, sy'n ei gwneud hi'n anodd dweud a yw cyd-gynhyrchu ymchwil yn gweithio, yn enwedig yn achos ymarferion cyd-gynhyrchu lle mae angen i gyd-gynhyrchwyr ymchwil, broceriaid a defnyddwyr ddefnyddio llawer iawn o adnoddau.

Rydym yn paratoi gweithdy gyda rhanddeiliaid o Gymru sy'n ymwneud â chyd-gynhyrchu ymchwil (e.e. cynhyrchwyr a defnyddwyr ymchwil) i drafod y canfyddiadau hyn a gweld beth mae cyd-gynhyrchu ymchwil da yn ei olygu iddyn nhw a sut y gallwn ni, yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ddysgu o'u henghreifftiau.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.