Cymrodoriaeth Polisi ESRC WCPP – Cynnwys arbenigwyr-drwy-brofiad er mwyn manteisio ar wybodaeth

Ers mis Tachwedd 2023, mae’r ESRC wedi ariannu Cymrawd Polisi i gael ei secondio i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) er mwyn gwella dealltwriaeth, galluoedd a sgiliau sefydliadau brocera gwybodaeth wrth gynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd yn ein gwaith. Mae’r Gymrodoriaeth yn gydweithrediad 18 mis rhwng y Cymrawd (Dr Rounaq Nayak), WCPP, a thair Canolfan Beth-sy’n-Gweithio arall - y Centre for Ageing Better, Youth Futures Foundation a’r Centre for Homelessness Impact. Darperir cyngor arbenigol gan Sarah Campbell, Pennaeth Cyfranogiad Sefydliad Joseph Rowntree, gyda chefnogaeth gan y Modern Slavery Policy Evidence Centre a’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Ryngwladol.

Mae'r Gymrodoriaeth yn cynnwys pedwar cam allweddol sy'n bwydo’i gilydd yn eu tro:

  1. Dysgu oddi mewn i WWN i archwilio’r ddealltwriaeth a’r arferion presennol mewn perthynas ag ymgorffori arbenigedd profiad bywyd a deall arferion, safbwyntiau a gwybodaeth gyfredol am gyfranogiad drwy brofiad bywyd ar draws WWN.
  2. Dysgu y tu hwnt i WWN drwy adolygu llenyddiaeth a, thrwy 25 o gyfweliadau, edrych ar arbenigedd yn y sector ehangach i archwilio a all arbenigwyr profiad bywyd lywio’r broses o fanteisio ar wybodaeth, sut y gall hynny ddigwydd ac ym mha ffyrdd.
  3. Arbrofi ac arloesi yn WWN drwy ddwyn ynghyd yr hyn a ddysgwyd o dri chyfle ymchwil weithredol i rannu a chymhwyso dulliau perthnasol ar gyfer cynnwys arbenigwyr profiad bywyd.
  4. Rhannu dysgu a chynyddu galluoedd yn ehangach drwy gynhyrchu astudiaethau achos ar brosiectau ymchwil weithredol, cyflwyno i'r Cyngor Beth-sy’n-Gweithio, drwy weithdy hanner diwrnod ar dystiolaeth chwarter, a chynhyrchu papur briffio ar gyfer llunwyr polisi.

Yn ogystal â rhannu dysgu drwy adroddiadau ymchwil, bydd y Gymrodoriaeth hefyd yn llunio ac yn datblygu pecyn o adnoddau ymarferol i gefnogi sefydliadau brocera gwybodaeth yn ein hymdrechion i gynnwys arbenigwyr profiad bywyd yn ein gwaith er mwyn manteisio ar wybodaeth i lywio polisi ac ymarfer.

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.