Cynyddu mynediad at addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC) ymysg plant a theuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn nodi pwysigrwydd chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar i ddatblygiad plant, dysgu gydol oes ac integreiddio cymdeithasol. Gan weithio gyda Grŵp Llywodraethu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar gyfer Gofal Plant, nododd Llywodraeth Cymru y mater o ddefnyddio gofal plant y blynyddoedd cynnar ymysg plant a theuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol fel maes y mae angen rhoi sylw iddo.

Ers mis Tachwedd 2023, mae’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO) a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu tystiolaeth i Lywodraeth Cymru i lywio rhagor o ymchwil a phenderfyniadau polisi ar gefnogi plant a theuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru.

Roedd diffyg data clir a diweddar ar fylchau o ran mynediad at addysg a gofal plentyndod cynnar yn golygu bod angen archwilio’r dystiolaeth fyd-eang bresennol i ddarparu gwell dealltwriaeth o’r heriau cyfranogiad y mae plant a theuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn eu hwynebu. Dyma’r cwestiynau ymchwil arweiniol:

  • Pa dystiolaeth sy'n bodoli am natur a graddfa'r her o ran cyfranogiad mewn addysg a gofal plentyndod cynnar ymhlith plant a theuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol?
  • Beth yw'r rhwystrau a'r galluogwyr rhag cymryd rhan mewn addysg a gofal plentyndod cynnar ymhlith plant a theuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol?
  • Pa ymyriadau sydd wedi cael eu rhoi ar waith i annog plant a theuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gymryd rhan mewn addysg a gofal blynyddoedd cynnar? I ba raddau mae’r ymyriadau hyn yn effeithiol?
  • Sut mae gwledydd eraill wedi mynd ati i sicrhau cyfranogiad cyfartal mewn gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar ar gyfer teuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, yn ogystal â grwpiau lleiafrifol neu ddifreintiedig eraill?

Cafodd y ffordd y gwnaethom ddelio â’r sylfaen dystiolaeth ei llywio gan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrth-hiliaeth a gweithio gyda chymunedau. Gwnaethom ategu adolygiadau annibynnol o’r dystiolaeth drwy ymgysylltu’n ddyfnach â rhanddeiliaid, gan gynnwys gyda phobl sydd â phrofiad uniongyrchol, ac ymarferion mapio i ddod â safbwyntiau byd-eang a lleol at ei gilydd.

Mae gan y prosiect hwn bedwar canlyniad allweddol:

  • Map systemau o rwystrau a galluogwyr i addysg a gofal plentyndod cynnar ar gyfer teuluoedd ethnig leiafrifol, wedi'i lywio gan sesiynau gyda 'mentor cymunedol' a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.
  • Adolygiad tystiolaeth cyflym o lenyddiaeth bresennol yn asesu effaith ymyriadau i gynyddu mynediad i addysg a gofal plentyndod cynnar yn y DU a gwledydd tebyg a gynhaliwyd gan Ganolfan Tystiolaeth ar gyfer Polisi ac Ymarfer UCL
  • Sgan polisi rhyngwladol gydag astudiaethau achos o ymyriadau polisi perthnasol sydd â'r nod o ehangu mynediad at addysg a gofal plentyndod cynnar mewn gwledydd eraill ledled y byd a ddarperir gan Rwydwaith Rhyngwladol Cyngor Gwyddoniaeth y Llywodraeth (INGSA)
  • Gweithdy Damcaniaeth Newid i drafod canfyddiadau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid lleol er mwyn gallu gwneud penderfyniadau lleol yn well yn seiliedig ar y sylfaen dystiolaeth fyd-eang. Bydd canfyddiadau’r gweithdai yn cael eu cyhoeddi mewn nodyn ar gyfer Llywodraeth Cymru, a fydd yn crynhoi’r prif ganfyddiadau a’r goblygiadau.

Bydd yr holl adroddiadau’n cael eu cyhoeddi yn hydref 2024 i gyd-fynd â gweminar gyhoeddus ar 3 Hydref 2024. Anfonwch e-bost at yr Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn bresennol yn y lansiad neu dderbyn allbynnau terfynol y prosiect: ippo@ucl.ac.uk

 

Nodyn am y derminoleg

  • Er bod ffocws polisi Llywodraeth Cymru ar bwysigrwydd chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar, mae’r prosiect hwn yn defnyddio addysg a gofal plentyndod cynnar; a gan fod addysg a gofal plentyndod cynnar yn derm sy'n cael ei dderbyn, ei gydnabod a'i ddefnyddio'n fyd-eang, fe wnaethom ei ddefnyddio i chwilio am dystiolaeth.
  • Er ein bod yn cydnabod nad oes term sy’n cael ei dderbyn yn gyffredinol i ddisgrifio’r amrywiaeth o grwpiau a all brofi hiliaeth mewn cymdeithas, yn yr adroddiad hwn, ac allbynnau cysylltiedig, rydym yn dilynCynllun Gweithredu Wrth-hiliol Cymru wrth ddefnyddio’r term Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, yn ogystal â 'lleiafrif ethnig' fel disgrifiad cryno. Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ‘deuluoedd sy’n profi anfantais’ neu ‘gymunedau difreintiedig’. Er nad oes modd cyfnewid y grwpiau hyn, rydym wedi ehangu ein chwiliad i gynnwys astudiaethau sy’n targedu cymunedau difreintiedig i ddod o hyd i ystod ehangach o dystiolaeth a allai fod yn drosglwyddadwy.
To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.