Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ar Ddatblygu gwasanaeth prawf i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ail-gomisiynu WCPP i gynnal prosiect dilynol sy'n canolbwyntio ar fodel y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer cyd-gomisiynu gwasanaethau'n lleol, sef un o'r tri maes yr ymchwiliwyd iddynt yn ymchwil gynharach WCPP.
Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb arbennig yn y canlynol:
- Sut mae model y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi cael ei roi ar waith ym Manceinion Fwyaf, a pha wersi perthnasol y gellir eu dysgu o’r broses hon ar gyfer Cymru o ran gweithredu a rheoli newid, gan gofio’r cyd-destun gwleidyddol, cymdeithasol a daearyddol gwahanol;
- Dod â rhanddeiliaid a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ynghyd i brofi’r gwersi hyn ac i gasglu gwybodaeth am heriau neu gyfleoedd posibl eraill a allai godi o ganlyniad i unrhyw Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth y gellid cytuno arno ar gyfer Cymru.
Mae WCPP yn cynnal cyfres o gyfweliadau gyda rhanddeiliaid yn y gwasanaeth prawf ar hyd a lled Cymru a Lloegr, ac yn cynnal digwyddiad bwrdd crwn i drafod pa faterion y byddai angen mynd i'r afael â nhw yng Nghymru pe baem yn negodi ac yn cytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth.