Mae Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol yn cyfeirio at gredydau carbon sy’n cael eu cynhyrchu’n wirfoddol a’u masnachu at ddibenion gwrthbwyso carbon. Gall y Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol helpu gwledydd datblygedig i gyflawni eu targedau hinsawdd drwy leihau allyriadau ac ariannu datrysiadau a chamau lliniaru sy’n ymwneud â byd natur. Serch hynny, nid yw’r Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol yn cael eu rheoleiddio ac maent yn cael eu beirniadu am hwyluso trafodion credydau carbon o ansawdd isel ac am alluogi sefydliadau i wneud hawliadau twyllodrus. Mae ICVCM (cyngor didwylledd y Farchnad Garbon Wirfoddol), a chyrff eraill sy’n gosod y safonau, yn gweithio er mwyn rheoleiddio’r marchnadoedd hyn. Mae llywodraethau’n ystyried beth yw’r ffordd orau i roi’r safonau hyn ar waith er mwyn gwella didwylledd y marchnadoedd a llywio’r ffordd y mae sefydliadau yn defnyddio’r Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol.
Yng Nghymru, gallai’r arian a ddaw o’r Farchnad Garbon Wirfoddol gefnogi’r targedau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ogystal â’n cynorthwyo i newid i allyriadau sero net. Wedi dweud hynny, mae angen rhoi mesurau diogelu amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol ar waith er mwyn mynd i’r afael â’r peryglon sy’n codi o ganlyniad i faterion perchnogaeth tir mewn prosiectau gwrthbwyso sy’n ymwneud â byd natur.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) gasglu tystiolaeth ar sut y mae gwledydd a rhanbarthau eraill wedi datblygu a rhoi polisïau, cynlluniau, a rheoliadau ar waith yn y Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol, yn ogystal â nodi pa wersi y gallwn ni yng Nghymru eu dysgu gan wledydd a rhanbarthau eraill. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu Sefydliad Ymchwil Grantham ar Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd i’n cynorthwyo i gyflawni’r prosiect hwn.