Rydyn ni’n gweithio gyda Chyngor Abertawe ynghyd ag ymarferwyr yn y sector cyhoeddus, academyddion, arbenigwyr drwy brofiad, a grwpiau cymunedol i ddatblygu atebion lleol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i’r afael â stigma ynghylch tlodi yn yr ardal.
Mae stigma tlodi yn amlygu effeithiau caledi materol ac yn ei gwneud yn anoddach i bobl ddianc rhag tlodi. Mae ein briff polisi yn dangos bod stigma tlodi yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael, ynysu cymdeithasol, a llai o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau a gwasanaethau cymorth eraill, ac mae’r arolwg YouGov a gomisiynwyd gennym y llynedd wedi datgelu maint y broblem yng Nghymru, gyda 25% o oedolion yn profi stigma ynghylch tlodi ‘bob amser’, ‘yn aml’ neu ‘weithiau’.
Mae ein gwaith ehangach ar stigma tlodi yn ceisio cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a llunwyr polisïau yng Nghymru i ddeall stigma tlodi yn well, sut mae’n effeithio ar eu cymunedau, a ffyrdd o’i leihau. Mae ymwybyddiaeth gynyddol o’r mater hwn ymysg y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae rhai llywodraethau lleol, megis Cyngor Abertawe, wedi ymrwymo i gymryd camau rhagweithiol i fynd i’r afael â stigma ynghylch tlodi.
Fodd bynnag, mae diffyg tystiolaeth ar hyn o bryd ynglŷn â ‘beth sy’n gweithio’ i atal stigma tlodi a mynd i’r afael ag ef, a beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio’r dystiolaeth honno drwy bolisi ac ymarfer mewn ardal benodol.
Rydyn ni wedi comisiynu tîm ymchwil i ymchwilio i brofiadau o stigma tlodi yn Abertawe a rôl gwasanaethau cyhoeddus lleol o ran cyfrannu at stigma a’i atal. Bydd y tîm ymchwil yn gweithio gydag arbenigwyr drwy brofiad lleol i gydgynhyrchu’r prosiect ymchwil â Chyngor Abertawe. Nodau’r prosiect hwn yw helpu partneriaid yn y sector cyhoeddus yn Abertawe i wneud y canlynol:
- Deall a dysgu o brofiadau bywyd o stigma tlodi yn Abertawe – o ble mae’n dod, sut mae’n ymddangos ym mywydau bob dydd pobl a’u profiadau o wasanaethau cyhoeddus, a sut mae’n effeithio ar bobl.
- Deall rôl gwasanaethau cyhoeddus lleol – o ran cyfrannu at stigma tlodi a’i leihau, gan adeiladu hefyd ar unrhyw ymdrechion presennol sydd eisoes yn gweithio’n dda i fynd i’r afael â stigma tlodi yn Abertawe.
- Dysgu o ymchwil ac arferion addawol mewn mannau eraill – i archwilio’r hyn y mae tystiolaeth ryngwladol yn ei ddweud am fynd i’r afael â stigma tlodi a sut y gellir cymhwyso’r gwersi hyn i bolisi ac ymarfer yn Abertawe.
- Cyd-greu gweledigaeth a chynllun gweithredu lleol ar gyfer mynd i’r afael â stigma tlodi – i lywio Strategaeth Mynd i’r Afael â Thlodi Cyngor Abertawe ac ymdrechion ehangach i fynd i’r afael â stigma tlodi yn Abertawe.
Drwy’r gwaith hwn, rhagwelir y byddwn yn cynhyrchu adroddiad ymchwil, canllaw ymarferol a chrynodeb cymunedol a fydd ar gael i’r cyhoedd yn 2025.
Bydd y canfyddiadau’n cael eu rhannu i lywio cynllun gweithredu a strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe. Bydd yr hyn a ddysgir yn Abertawe hefyd yn cael ei rannu â llywodraethau lleol eraill yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru, a thrwy Rwydwaith Mewnwelediad Stigma Tlodi Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, neu am ein gwaith fel arall, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at info@wcpp.org.uk.