Mae’r llwybr i sero net yn cynnig cyfle hollbwysig i ailystyried sut mae’r economi’n gweithio, yn enwedig yng nghyd-destun cynhyrchiant a thwf economaidd sydd wedi aros yn eu hunfan yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar y sector tai ac yn ystyried y dystiolaeth sy’n dangos bod buddsoddi mewn ôl-osod yn ffordd o sicrhau manteision ehangach.
Mae strategaeth Caerdydd Un Blaned Cyngor Caerdydd yn amlinellu mai nod Caerdydd yw dod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae’n nodi y gellir priodoli 26.4% o allyriadau carbon y ddinas yn 2021 i adeiladau domestig, sy’n golygu bod lleihau eu hallyriadau’n bwysig i ddod yn garbon niwtral.
Mae Cyngor Caerdydd wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru adolygu’r gwaith sydd wedi’i wneud gan Gyngor Caerdydd a’i bartneriaid yn barod a chyfuno’r dystiolaeth o arfer gorau ac ymchwil newydd. Bydd hyn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu ei ‘Cynnig Twf Gwyrdd’ – rhaglen wedi’i thargedu ar gyfer ôl-osod cartrefi mewn tlodi tanwydd, gyda’r nod o annog rhagor o bobl i fabwysiadu’r mesurau hyn. Mae Cyngor Caerdydd hefyd wedi mynegi diddordeb mewn cysylltu â llunwyr polisïau cenedlaethol i ystyried cyfleoedd i sicrhau cyllid ac uwchraddio.
Mae ein hymchwil yn cael ei llywio gan yr egwyddorion canlynol:
- Sut gall buddsoddi mewn ôl-osod domestig ar raddfa fawr gefnogi ac ysgogi marchnad ôl-osod domestig ehangach?
- Sut mae rhaglenni o’r fath wedi’u rhoi ar waith mewn mannau eraill, a pha wersi y gall Caerdydd eu dysgu o’r rhain?
- I ba raddau y mae’r rhaglen hon yn cyd-fynd ag amcanion cenedlaethol Llywodraeth Cymru, ac a allai rhaglen dan arweiniad awdurdodau lleol gydweddu â mentrau cenedlaethol?