Rhwydwaith Mewnwelediad Stigma Tlodi

Sefydlwyd y Rhwydwaith Mewnwelediad Stigma Tlodi gan WCPP yn 2024, yn ogystal â rhwydwaith ledled y DU o unigolion a sefydliadau sydd â'r nod cyffredin o geisio deall, atal a mynd i'r afael â stigma tlodi yn well. Mae'r aelodau'n cynnwys arbenigwyr profiad bywyd, llunwyr polisïau, ymarferwyr, ymchwilwyr ac academyddion. Mae'r Rhwydwaith yn un elfen o raglen waith ehangach WCPP i fynd i'r afael â stigma tlodi, ochr yn ochr â'n gwaith seiliedig ar leoedd yn Abertawe a datblygu adolygiad cyflym o dystiolaeth.

Drwy'r Rhwydwaith rydym yn ceisio dylanwadu ar benderfyniadau ac arferion lleol a chenedlaethol i fynd i'r afael â stigma tlodi drwy ddefnyddio tystiolaeth a mewnwelediad i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o stigma tlodi, herio mythau am dlodi, a newid y naratif; ac i newid agweddau ac arferion gweithwyr proffesiynol, sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r Rhwydwaith yn cyfarfod bob dau neu dri 2-3 mis, ar-lein fel arfer, i wneud y canlynol:

  1. Rhannu syniadau, arferion da ac enghreifftiau o ‘beth sy’n gweithio’.
  1. Canolbwyntio ar leisiau pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o stigma tlodi, a manteisio ar eu harbenigedd i ddod o hyd i atebion.
  1. Annog a chefnogi cyd-gynhyrchu mentrau a gwasanaethau gwrthdlodi gyda'r rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o dlodi.
  1. Meithrin llais cryf a hyderus ar y cyd i ddylanwadu ac ymgyrchu dros newid.
  1. Cefnogi’r gwaith o ddatblygu, rhannu a defnyddio tystiolaeth ac adnoddau i fynd i’r afael â stigma tlodi.

Mae aelodau’r Rhwydwaith wedi datblygu’r gwerthoedd canlynol ar y cyd sy’n sail i’n gwaith gyda’n gilydd:

  • Parhau i ganolbwyntio ar brofiad bywyd yn foesegol ac yn sensitif;
  • Ceisio cynnwys safbwyntiau a lleisiau amrywiol, gan gynnwys y rhai y mae stigma tlodi yn effeithio arnynt ochr yn ochr â mathau eraill o stigma (er enghraifft, pobl ddu, Asiaidd a hil leiafrifiedig a phobl anabl);
  • Bod yn gynhwysol drwy chwilio am rwystrau a allai atal rhai pobl/grwpiau rhag cymryd rhan a chael gwared arnynt;
  • Cael effaith a gwneud gwahaniaeth
  • Meithrin perthynas â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a all newid polisi ac ymarfer
  • Rhannu’r hyn a ddysgwyd y tu hwnt i’r Rhwydwaith ei hun a,
  • Bod yn ymdrech ar y cyd – gall WCPP arwain ar rai elfennau, ond bydd eraill mewn sefyllfa well i arwain ar feysydd eraill.

Bydd y cyfarfodydd Rhwydwaith Mewnwelediad Stigma Tlodi nesaf yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mercher 6ed Chwefror, 10am - 11am (arlein)
  • WYNEB YN WYNEB. Dyddiad a leoliad i’w gadarnhau – mewn cydweithrediad ag Achub y Plant gan ganolbwyntio ar lais yr ifanc.
  • Dydd Mercher 16eg Gorffennaf, 10am - 11am (arlein)

I ymuno â’r Rhwydwaith Mewnwelediad Stigma Tlodi, anfonwch e-bost at info@wcpp.org.uk

 

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.