Projects Yr amgylchedd a sero net Ôl-osod Domestig: Ysgogi Twf Gwyrdd a Thegwch Cymdeithasol Mae’r llwybr i sero net yn cynnig cyfle hollbwysig i ailystyried sut mae’r economi’n gweithio, yn enwedig yng nghyd-destun cynhyrchiant a thwf economaidd sydd wedi aros yn eu hunfan yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar y sector tai ac yn ystyried y dystiolaeth sy’n dangos bod buddsoddi mewn ôl-osod […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Sero Net Awst 8, 2025
Projects Ymchwil ac effaith Arferion rhoi gwybodaeth ar waith yn effeithiol Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn sefydliad brocera gwybodaeth sy'n rhoi tystiolaeth ar waith i lywio polisïau ac arferion gwasanaethau cyhoeddus. Er bod y manteision o lunio polisïau ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn rhai sy’n argyhoeddi, nid yw’n glir i ba raddau y maen nhw wedi'u cyflawni. Mae angen rhoi gwybodaeth ar waith […] Rhagor o wybodaeth Ymchwil ac effaith: Rôl KBOs Awst 5, 2025
Projects Ymchwil ac effaith Arwain y gwaith o roi tystiolaeth ar waith Fe wnaethom gynnal adolygiad o lenyddiaeth ar y ffactorau sy'n pennu effeithiolrwydd canolfannau tystiolaeth. Fe dynnodd sylw at arweinyddiaeth fel dylanwad allweddol ar eu llwyddiant ond datgelodd mai ychydig iawn o ddadansoddiad empirig sydd wedi’i gynnal o'r hyn y mae arweinwyr canolfannau tystiolaeth yn ei wneud mewn gwirionedd, y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, […] Rhagor o wybodaeth Ymchwil ac effaith: Rôl KBOs Awst 5, 2025
Projects Ymchwil ac effaith Effaith cyrff ymgysylltu â pholisïau prifysgolion y DU Dros y degawd diwethaf, mae llu o gyrff wedi dod i'r amlwg mewn prifysgolion yn y DU, a thu hwnt, sy'n ceisio brocera tystiolaeth a gynhyrchwyd gan eu sefydliad, a’i chyflwyno i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Mae'r ffenomen hon yn gysylltiedig â'r sylw ar effaith ymchwil (er enghraifft y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn y DU) […] Rhagor o wybodaeth Ymchwil ac effaith: Rôl KBOs Awst 5, 2025
Projects Ymchwil ac effaith Cyd-gynhyrchu ymchwil gyda llunwyr polisïau a gwasanaethau cyhoeddus A ninnau’n sefydliad brocera gwybodaeth, mae ein gweithgareddau yn cynnwys gweithio'n agos gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i weld pa dystiolaeth sydd ei hangen arnyn nhw, a sut y gallwn ni ddiwallu'r anghenion hynny. Mae diddordeb gennym mewn gweld a allai'r cysyniad poblogaidd o gyd-gynhyrchu esbonio sut rydym yn gweithio, yn enwedig gyda’r rhai sy’n […] Rhagor o wybodaeth Ymchwil ac effaith: Effaith Awst 5, 2025
Projects Ymchwil ac effaith Profiad arbenigwyr academaidd o weithio gyda sefydliad broceru gwybodaeth er mwyn gyrru tystiolaeth a chydweithio â llunwyr polisïau Mae’n gred gyffredinol bod defnyddio tystiolaeth wrth lunio polisïau yn arwain at ganlyniadau gwell. Ond, mae sawl her yn wynebu ymchwilwyr a llunwyr polisïau wrth greu polisïau ar sail tystiolaeth (EBPM). Mae rhai wedi galw am gynnal ymchwil sydd wedi ei ddylunio’n well ac wedi’i osod mewn cyd-destun er mwyn ymateb i'r prinder ymchwil perthnasol […] Rhagor o wybodaeth Ymchwil ac effaith: Effaith Gorffennaf 30, 2025
Projects Ymchwil ac effaith Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig Gan fod mwy o sylw’n cael ei roi i ddylanwad Sefydliadau Broceru Gwybodaeth, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i ddeall maint eu dylanwad, ac i wneud y mwyaf ohono. Bydd yr Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig yn dod i ddeall yn well beth yw’r berthynas rhwng arferion gyrru gwybodaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’u dylanwad […] Rhagor o wybodaeth Ymchwil ac effaith: Effaith Gorffennaf 30, 2025
Projects Darparu gwasanaethau prawf i Gymru Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ar Ddatblygu gwasanaeth prawf i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ail-gomisiynu WCPP i gynnal prosiect dilynol sy'n canolbwyntio ar fodel y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer cyd-gomisiynu gwasanaethau'n lleol, sef un o'r tri maes yr ymchwiliwyd iddynt yn ymchwil gynharach WCPP. Mae gan […] Rhagor o wybodaeth Gorffennaf 30, 2025
Projects Llywodraeth leol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol Yng Nghymru, mae llywodraeth leol dan straen cynyddol wrth i’r galw am wasanaethau megis gofal cymdeithasol gynyddu tra bod gwasanaethau eraill yn wynebu toriadau oherwydd setliadau ariannol anodd. Lawrlwythwch y papur a CHLICIWCH YMA neu sganiwch isod i rhoi eich barn am ganfyddiadau y gweithgor: Cydnabuwyd ers tro y gallai fod angen newid neu addasu ffurf bresennol llywodraeth […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraethu Gorffennaf 30, 2025
Projects Yr amgylchedd a sero net Marchnadoedd carbon gwirfoddol Mae Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol yn cyfeirio at gredydau carbon sy’n cael eu cynhyrchu’n wirfoddol a’u masnachu at ddibenion gwrthbwyso carbon. Gall y Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol helpu gwledydd datblygedig i gyflawni eu targedau hinsawdd drwy leihau allyriadau ac ariannu datrysiadau a chamau lliniaru sy’n ymwneud â byd natur. Serch hynny, nid yw’r Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol yn cael […] Rhagor o wybodaeth Gorffennaf 30, 2025
Projects Adolygiad Gwariant Llywodraeth Cymru Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraethau ledled y byd wedi bod yn ymgodymu â chymysgedd cymhleth o heriau cyllidol, o ymateb i ddigwyddiadau eithriadol megis pandemig COVID-19, i bwysau cynyddol ar wariant cyhoeddus o ganlyniad ffactorau mwy hirdymor megis poblogaeth yn heneiddio a’r newid yn yr hinsawdd. Mae hyn wedi arwain at ffocws polisi rhyngwladol […] Rhagor o wybodaeth Gorffennaf 30, 2025
Projects Mynd i’r afael â stigma tlodi yn Abertawe Rydyn ni’n gweithio gyda Chyngor Abertawe ynghyd ag ymarferwyr yn y sector cyhoeddus, academyddion, arbenigwyr drwy brofiad, a grwpiau cymunedol i ddatblygu atebion lleol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i’r afael â stigma ynghylch tlodi yn yr ardal. Mae stigma tlodi yn amlygu effeithiau caledi materol ac yn ei gwneud yn anoddach i bobl […] Rhagor o wybodaeth Gorffennaf 30, 2025
Projects Ffactorau llwyddiant ar gyfer contractio a dyfarnu masnachfreintiau bysiau Ym mis Mawrth 2025, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Bysiau i Gymru i roi mwy o reolaeth i’r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau, gyda’r nod o greu rhwydwaith bysiau cwbl integredig, carbon isel, sy’n canolbwyntio ar deithwyr yn rhan o’i gweledigaeth ehangach Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Gwella gwasanaethau cyhoeddus Llywodraethu Gorffennaf 30, 2025
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Rhwydwaith Mewnwelediad Stigma Tlodi Sefydlwyd y Rhwydwaith Mewnwelediad Stigma Tlodi gan WCPP yn 2024, yn ogystal â rhwydwaith ledled y DU o unigolion a sefydliadau sydd â'r nod cyffredin o geisio deall, atal a mynd i'r afael â stigma tlodi yn well. Mae'r aelodau'n cynnwys arbenigwyr profiad bywyd, llunwyr polisïau, ymarferwyr, ymchwilwyr ac academyddion. Mae'r Rhwydwaith yn un elfen […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Profiad bywyd Tlodi ac allgáu cymdeithasol Ionawr 10, 2025
Projects Ymchwil ac effaith Cymrodoriaeth Polisi ESRC WCPP – Cynnwys arbenigwyr-drwy-brofiad er mwyn manteisio ar wybodaeth Ers mis Tachwedd 2023, mae’r ESRC wedi ariannu Cymrawd Polisi i gael ei secondio i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) er mwyn gwella dealltwriaeth, galluoedd a sgiliau sefydliadau brocera gwybodaeth wrth gynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd yn ein gwaith. Mae’r Gymrodoriaeth yn gydweithrediad 18 mis rhwng y Cymrawd (Dr Rounaq Nayak), WCPP, a thair […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Profiad bywyd Ymchwil ac effaith: Rôl KBOs Awst 13, 2024
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Cynyddu mynediad at addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC) ymysg plant a theuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn nodi pwysigrwydd chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar i ddatblygiad plant, dysgu gydol oes ac integreiddio cymdeithasol. Gan weithio gyda Grŵp Llywodraethu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar gyfer Gofal Plant, nododd Llywodraeth Cymru y mater o ddefnyddio gofal plant y blynyddoedd cynnar ymysg plant a theuluoedd Du, […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Amrywiaeth a chynhwysiant Anghydraddoldebau o ran addysg Anghydraddoldebau o ran addysg Gorffennaf 11, 2024
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Canllawiau i ysgolion i gefnogi pobl ifanc drawsryweddol Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu LHDTC+ ym mis Chwefror 2023, gan ddarparu fframwaith ar gyfer datblygu polisi ar draws Llywodraeth Cymru a phartneriaid i gefnogi unigolion LHDTC+ yng Nghymru. Fel rhan o'r Cynllun Gweithredu LHDTC+, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddarparu canllawiau cenedlaethol priodol i ysgolion ac awdurdodau lleol i gefnogi plant a phobl ifanc drawsryweddol […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Amrywiaeth a chynhwysiant Amrywiaeth a chynhwysiant Anghydraddoldebau o ran addysg Mai 1, 2024
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Amrywiaeth mewn Recriwtio Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) gefnogi ei gwaith ar gynyddu’r gyfran y bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac anabl sy’n cael eu penodi, er mwyn cywiro’r gynrychiolaeth anghyfrannol bresennol yng ngweithlu Llywodraeth Cymru. . Yn benodol, mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb yn y meysydd recriwtio canlynol: Bod yn […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Amrywiaeth a chynhwysiant Llywodraeth leol Ionawr 16, 2024
Projects Partneriaeth i gynorthwyo llywodraeth leol i gyrraedd sero net Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cydlynu rhaglen cymorth pontio ac adfer newid hinsawdd i weithio tuag at gyflawni uchelgais cyffredinol y sector cyhoeddus o gyrraedd sero net erbyn 2030, a’r targedau interim a amlinellir yn Cymru Sero Net - Cyllideb Garbon 2 (2021-25). Mae gan lywodraeth leol rôl hollbwysig i’w chwarae o ran […] Rhagor o wybodaeth Rhagfyr 7, 2023
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Dulliau rhyngwladol o drin heneiddio a gostyngiadau yn y boblogaeth Mae tueddiadau ffrwythlondeb a marwolaethau wedi arwain at gynnydd yn y nifer o farwolaethau o gymharu â’r nifer o enedigaethau ers 2015/16 yng Nghymru. Syrthiodd Cyfanswm y Gyfradd Ffrwythlondeb yng Nghymru yn is na'r gyfradd amnewid (o 2.1) ym 1974 ac mae wedi aros yno ers hynny, yn sefyll ar ddim ond 1.5 genedigaeth i […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Anghydraddoldebau iechyd Tachwedd 8, 2023
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Stigma tlodi Dangosodd ein gwaith ymchwil blaenorol i brofiad byw pobl o dlodi ac allgau cymdeithasol yng Nghymru ba mor bwysig yw datrys stigma tlodi – oherwydd bod stigma tlodi’n gwneud niwed i iechyd meddwl pobl mewn tlodi a hefyd oherwydd ei bod yn anoddach iddynt gael y cymorth sydd ei angen arnynt i gymryd rhan yn eu […] Rhagor o wybodaeth Hydref 20, 2023
Projects Tegwch ym maes addysg drydyddol Mae dysgu ôl-orfodol yn gysylltiedig ag ystod o ganlyniadau bywyd cadarnhaol megis gwell cyfleoedd cyflogaeth, enillion uwch a gwell lles. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu bod sawl anghydraddoldeb ynghlwm wrth gyrchu addysg drydyddol a sicrhau dilyniant deilliannau o addysg drydyddol ymhlith grwpiau gwahanol. Er mwyn mynd i’r afael â’r mathau hyn o anghydraddoldeb ac […] Rhagor o wybodaeth Hydref 9, 2023
Projects Llesiant cymunedol Rôl cydweithio amlsectoraidd wrth gefnogi gweithredu cymunedol Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a'r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar (RCP) yn gweithio gyda'i gilydd ar brosiect ymchwil gyda'r nod o ddeall rôl cydweithredu amlsectoraidd yn well wrth gefnogi gweithredu cymunedol sy'n gwella llesiant. Mae’r prosiect yn cynnwys dau gam: 1) Adolygiad o'r dystiolaeth a gyhoeddwyd ers dechrau pandemig Covid-19 ynglŷn â rôl ac effaith cydweithredu […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Cydweithio â’r gymuned Cydweithio â’r gymuned Llywodraeth leol Llywodraeth leol Medi 25, 2023
Projects Yr amgylchedd a sero net Sero Net 2035 Y dyddiad targed presennol ar gyfer bodloni sero net yw 2050. Ymrwymodd Cytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i 'gomisiynu cyngor annibynnol i archwilio llwybrau posibl i sero net erbyn 2035'. Mewn ymateb i hyn mae Grŵp Her Sero Net Cymru 2035 wedi’i ffurfio, dan gadeiryddiaeth y cyn-weinidog Jane Davidson. Edrychodd y grŵp ar yr […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Ynni Pontio cyfiawn Sero Net Tai a chartrefi Ebrill 26, 2023
Projects Ymchwil ac effaith Examining the Impact of the What Works Network The Wales Centre for Public Policy (WCPP) has been awarded ESRC funding to continue examining and developing the impact of the What Works Network. This work builds on previous Centre projects such as on implementation and on impact. This new project focuses on the following research questions: What counts as impact and what are the […] Rhagor o wybodaeth Ymchwil ac effaith: Effaith Rôl KBOs Ebrill 4, 2023
Projects Gweithdai cynllun llesiant ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) gynhyrchu cynlluniau llesiant lleol bob pum mlynedd, ar sail asesiad o anghenion llesiant yn eu hardaloedd lleol, gan nodi amcanion llesiant a chamau arfaethedig i’w cyflawni. Yn dilyn ein gwaith blaenorol yn 2021 yn darparu sesiynau briffio i […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Unigrwydd Chwefror 23, 2023
Projects Llesiant cymunedol Diffinio, mesur, a monitro iechyd democratiaeth yng Nghymru Mae 'democratiaeth' yn cael ei hystyried yn system lywodraeth ddelfrydol am ei bod yn rhoi grym a dilysrwydd i weithredwyr a sefydliadau gwleidyddol, ac i'r graddau y maen nhw’n cynrychioli 'ewyllys y bobl' yn unig. I'r rhai sy'n ceisio llywodraethu, rhaid iddyn nhw allu dangos bod ganddyn nhw gefnogaeth y rhai sy’n mynd i fod […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Llywodraeth leol Tachwedd 25, 2022
Projects Gwasanaethau Cyfunol Drwy gydol pandemig Covid-19, mae sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n cefnogi llesiant cymunedol wedi dibynnu ar gyfuniad o ddulliau o bell ac wyneb yn wyneb ar gyfer darparu gwasanaethau ac ymgysylltu â’r bobl maent yn eu cynorthwyo. Er y gall y drafodaeth am hyn ganolbwyntio weithiau ar gryfderau a gwendidau darpariaeth ddigidol 'yn […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Unigrwydd Awst 30, 2022
Projects Yr amgylchedd a sero net Modelu allyriadau carbon yng Nghymru O ganlyniad i gyfuniad o alw byd-eang cynyddol am dargedau ynni ac allyriadau carbon llym, mae’r broses benderfynu o ran caffael a defnyddio ynni yn gymhleth. Yng nghyd-destun yr ymrwymiad i gael gwared ar allyrru erbyn 2050, hoffai Llywodraeth San Steffan a’r llywodraethau datganoledig ddeall goblygiadau eu penderfyniadau ar bolisïau o ran allyriadau a’r modd […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Sero Net Tachwedd 17, 2021
Projects Yr amgylchedd a sero net Datgarboneiddio Cymru: Ynni, Diwydiannau, Tir Yn sgîl addewid Llywodraeth Cymru i gael gwared ar allyriadau carbon erbyn 2050 a chanlyniad cynhadledd COP26 yn Glasgow, mae’n amlwg y bydd ymdrechion i ddatgarboneiddio ein heconomi a’n cymdeithas yn fwyfwy pwysig i bolisïau a thrafodaethau gwladol dros y blynyddoedd a’r degawdau sydd i ddod. Er ein bod yn gwybod ble y dylen ni […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Sero Net Tachwedd 17, 2021
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Cynnal trefn dysgu gydol oes Cymru Mae bwriad i sefydlu Comisiwn Addysg ac Ymchwil Drydyddol Cymru a rhoi Bil Addysg ac Ymchwil Drydyddol gerbron y Senedd yn rhan o’r ffordd newydd o lywodraethu a threfnu addysg uwch ac addysg bellach yn y wlad hon. I’r perwyl hwnnw, gofynnwyd inni adolygu materion dysgu gydol oes i helpu’r comisiwn newydd i gyflawni ei […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Tachwedd 17, 2021
Projects Plant sy’n derbyn gofal Bu'r cynnydd sylweddol a pharhaus yng nghyfradd y plant sydd mewn gofal yng Nghymru yn ystod y 25 mlynedd diwethaf yn destun pryder o safbwynt polisi. Gwelwyd cynnydd yn nifer a chyfradd y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Mae'r gyfradd bellach yn uwch nag ar unrhyw adeg ers y 1980au. Yn ogystal, bu gan […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Tlodi ac allgáu cymdeithasol Hydref 21, 2021
Projects Diwygio Cyfraith ac Arferion Etholiadol Cafodd pŵer dros etholiadau ei ddatganoli i Gymru drwy Ddeddf Cymru 2017. Ers hynny, mae Gweinidogion Cymru wedi cychwyn ar raglen diwygio etholiadol sydd fwyaf nodedig am gynnig yr etholfraint i bobl 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys yn etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau llywodraeth leol. Gwnaeth y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Mehefin 21, 2021
Projects Sesiynau briffio i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar lesiant O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’n rhaid i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wneud asesiadau o lesiant bob pum mlynedd yn unol ag etholiadau awdurdodau lleol. Dylai’r Byrddau asesu’r sefyllfa o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ardaloedd eu hawdurdod lleol a phennu amcanion i’w gwella. Gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Mehefin 14, 2021
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Cyrhaeddiad addysg: Ymateb i bandemig y coronafeirws Mae pandemig y coronafeirws wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau addysgol presennol ledled y byd. Mae modelu effaith cau ysgolion yn Lloegr yn awgrymu y gallai gwerth deng mlynedd o ymdrechion i gau'r bwlch cyrhaeddiad fod wedi'i wrthdroi gan gau ysgolion yn ddiweddar. Yn yr un modd, canfu asesiadau o ddisgyblion Blwyddyn 7 yn Lloegr ym mis Medi […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Anghydraddoldebau o ran addysg Rhagfyr 15, 2020
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl: Newid y prawf modd Gofynnodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru archwilio goblygiadau gwaredu’r prawf modd ar gyfer grantiau cyfleusterau bach a chanolig i’r anabl. Mae grantiau cyfleusterau i’r anabl yn grantiau prawf modd ar gyfer perchen-feddianwyr a thenantiaid (preifat neu gymdeithasol) sy'n anabl i helpu tuag at gostau gwneud eu cartref yn hygyrch. […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Amrywiaeth a chynhwysiant Rhagfyr 15, 2020
Projects Cysylltu Cymunedau: Meithrin Perthnasoedd Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd a Gofal Cymdeithasol Cymru ar brosiect pedwar mis a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd i gynyddu cysylltiadau rhwng y cyngor, iechyd y cyhoedd a'r byd academaidd. Bydd y prosiect yn archwilio'r mecanweithiau, cydberthnasau a rhwydweithiau sydd eu hangen i gefnogi ac ariannu […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Rhagfyr 3, 2020
Projects Gweithio o bell ac economi Cymru Mae economi Cymru yn profi sioc ddofn a digynsail o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Un o ganlyniadau cyfyngiadau symud a chyfyngiadau iechyd cyhoeddus yw ei gwneud yn ofynnol i bobl weithio gartref lle y gallant. Mae data'r DU yn awgrymu, er mai dim ond 5 y cant o weithwyr oedd yn gweithio gartref cyn […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Rhagfyr 2, 2020
Projects Modelau gwahanol o ofal cartref Gofal cartref yw gofal cymdeithasol a ddarperir yng nghartrefi pobl ac mae'n cynnwys amrywiaeth o gymorth fel help gyda thasgau bob dydd, gofal personol, a help i symud. Mae gofal cartref yn wynebu nifer o heriau hirsefydlog, gan gynnwys cyllid, bregusrwydd y farchnad, newidiadau demograffig, a sefydlogrwydd y gweithlu. Mae darparu gofal cartref o ansawdd […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Anghydraddoldebau iechyd Rhagfyr 2, 2020
Projects Yr amgylchedd a sero net Tuag at bontio cyfiawn yng Nghymru Mae wedi bod cynnydd mewn ymwybyddiaeth, ymysg y cyhoedd a llunwyr polisi, o ran mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd ers dechrau 2019. Yng Nghymru, mae datganiad Llywodraeth Cymru o 'argyfwng hinsawdd' ym mis Ebrill 2019 wedi nodi ymrwymiad o'r newydd i ddatgarboneiddio. Mae datgarboneiddio’n codi ystod o heriau i lywodraethau, busnesau a […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Pontio cyfiawn Rhagfyr 2, 2020
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Codi oedran cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant i 18 oed yng Nghymru Yn Lloegr, codwyd oedran gorfodol i gyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant i 17 oed yn 2013 ac wedyn i 18 oed yn 2015. Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, oedran gadael yr ysgol yw 16. Mae'r syniad o godi oedran cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant yn ennill ei blwyf yng nghyd-destun yr Alban, yn […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Rhagfyr 2, 2020
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Tlodi ac allgáu cymdeithasol: Adolygiad Mae mynd i’r afael â thlodi ac allgau cymdeithasol wedi bod yn brif amcan cyson i Lywodraeth Cymru o ran polisïau, ac mae wedi cychwyn amrywiaeth o gynlluniau sy’n gysylltiedig â hyn ers datganoli. Mae'r rhain wedi cynnwys strategaethau trosfwaol, megis Strategaeth Tlodi Plant Cymru, a hefyd polisïau ac ymyriadau mwy penodol ar draws amrywiaeth […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Tlodi ac allgáu cymdeithasol Rhagfyr 2, 2020
Projects Ymfudo ar ôl Brexit a Chymru Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu dod â rhyddid pobl i symud i'r DU o wledydd yr UE i ben a bydd gan y Bil Mewnfudo arfaethedig oblygiadau sylweddol i economi, cymdeithas a phoblogaeth Cymru. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod yn archwilio effeithiau tebygol polisïau ymfudo ar ôl Brexit ar Gymru i nodi […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Rhagfyr 2, 2020
Projects Brexit a gweithlu'r GIG Fel rhan o grant Cronfa Bontio'r UE a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, comisiynodd Conffederasiwn GIG Cymru Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i ddadansoddi'r effeithiau tebygol ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, pa grwpiau staff a allai gael eu heffeithio fwyaf, a'r goblygiadau i’r strategaeth gweithlu tymor hir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Rhagfyr 2, 2020
Projects Goblygiadau'r cyfnod pontio o’r Ewrop i sectorau economaidd allweddol Yr Undeb Ewropeaidd yw'r partner masnachu rhyngwladol mwyaf gwerthfawr yn economaidd ar gyfer Cymru a'r DU, gan gyfrif am 43% a 52% o gyfanswm allforion a mewnforion y DU yn eu tro yn 2019. Yn dilyn ei hymadawiad o'r UE, mae Llywodraeth y DU wedi dechrau trafod cytundebau masnach rydd gyda'r UE a gyda gwledydd […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Rhagfyr 2, 2020
Projects Unigrwydd yng Nghymru Mae unigrwydd yn cael effaith sylweddol ar iechyd a lles y cyhoedd, ac mae wedi bod yn fater o flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ers cyn pandemig y coronafeirws. Mae mynd i’r afael ag unigrwydd wedi dibynnu ar strategaethau a mentrau er mwyn cynyddu ansawdd cysylltiadau cymdeithasol unigolion. Mae cadw pellter […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Tlodi ac allgáu cymdeithasol Tachwedd 26, 2020
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Cynyddu amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus Ddechrau 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru’ (Llywodraeth Cymru 2020), ei strategaeth ar gyfer cynyddu amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus yng Nghymru. Gofynnodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gefnogi gweithrediad y strategaeth drwy ddau brosiect: Adolygiad tystiolaeth cyflym o arferion recriwtio i gynyddu amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus; […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Tachwedd 10, 2020
Projects Cael y Canlyniadau Gorau Posibl o Brosesau Caffael a Chydweithio ar gyfer Covid-19 a thu hwnt: Gwersi o’r Argyfwng Caffael sydd i’w gyfrif am £100bn (47%) o wariant awdurdodau lleol (loG,2018). Mae sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cael yr effaith gymdeithasol ac economaidd fwyaf yn hanfodol er mwyn ymateb yn hyblyg i’r argyfwng, cynnal cydnerthedd cymunedol, a helpu busnesau lleol i oroesi. Mae llenyddiaeth sydd wedi dod i’r amlwg yn dynodi bod caffael […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Tachwedd 6, 2020
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Adolygiad tystiolaeth gyflym o gydraddoldeb hiliol Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a luniwyd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol ac ethnig strwythurol yng Nghymru. Gofynnodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gynnal adolygiadau tystiolaeth i lywio datblygiad y Cynllun Gweithredu ar draws chwe maes polisi allweddol: arweinyddiaeth a chynrychiolaeth,iechyd […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Tlodi ac allgáu cymdeithasol Medi 9, 2020
Projects Yr amgylchedd a sero net Sut i annog gyrwyr i ymlynu wrth reolau 20mya, a bod yn gyson o ran diogelwch ar y ffyrdd Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno cyfyngiad cyflymder awtomatig o 20mya ar bob ffordd breswyl yng Nghymru yn rhan o gyfres o fesurau i hybu cymunedau 'hawdd byw ynddynt'. Mae cyfyngiadau 20mya wedi'u gweithredu mewn sawl lle yn y DU, ond nid ar raddfa genedlaethol. Bydd angen newid sylweddol mewn ymddygiad gyrwyr er mwyn i'r […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Ynni Llywodraeth leol Mehefin 11, 2020
Projects Yr amgylchedd a sero net Sefydliadau Lleol, Cynhyrchedd, Cynaliadwyedd a Chyfaddawdau o ran Cynhwysiant (LIPSIT) Sefydliadau Lleol, Cynhyrchedd, Cynaliadwyedd a Chyfaddawdau o ran Cynhwysiant (LIPSIT) sy’n rhan o brosiect cydweithredol a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Nod y prosiect yw adnabod y trefniadau sefydliadol ar lefel ranbarthol sy’n tueddu i arwain at reolaeth ‘dda’ o gyfaddawdau polisi sy’n gysylltiedig â chynyddu cynhyrchedd, a gwneud argymhellion ar […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Mehefin 4, 2020
Projects Datblygu gweithredu ar draws rhwydwaith 'What Works' Gan adeiladu ar ein gwaith i gynyddu effaith rhwydwaith 'What Works' ledled y DU, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cael cyllid gan yr ESRC i weithio gyda'r Athro Jonathan Sharples yn EEF a Chanolfannau eraill 'What Works' i roi'r dystiolaeth a’r syniadau diweddaraf ynghylch gweithredu ar waith – sut defnyddir tystiolaeth i wneud penderfyniadau […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Mawrth 20, 2020
Projects Sut i annog gyrwyr i gadw at 20mya yn gyson â diogelwch ar y ffyrdd Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylid gosod terfyn cyflymder diofyn o 20 mya ar gyfer pob ardal breswyl yng Nghymru. Gellir caniatáu terfynau cyflymder uwch drwy eithriad yn unig. Mae hwn yn ddull polisi cwbl newydd ac arloesol. Byddai effeithiolrwydd y mesur hwn yn ddibynnol ar gydymffurfiaeth gyrwyr â'r terfynau cyflymder is. Mae goryrru […] Rhagor o wybodaeth Rhagfyr 17, 2019
Projects Gweinyddu nawdd cymdeithasol yng Nghymru Ar hyn o bryd yng Nghymru, cyfrifoldeb Llywodraeth y DG yw nawdd cymdeithasol, ac eithrio rhai budd-daliadau. Ers datganoli nawdd cymdeithasol yn yr Alban (2018) mae galw o'r newydd wedi bod i adolygu'r system nawdd cymdeithasol yng Nghymru. Gofynnodd Prif Weinidog Cymru i ni asesu'r materion y byddai'n rhaid eu hystyried er mwyn pennu dymunoldeb […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Tachwedd 28, 2019
Projects Atgyfnerthu Gwydnwch Economaidd Economi Cymru Mae'r cysyniad o wydnwch economaidd wedi dod i'r amlwg yn y degawd ers argyfwng ariannol 2008/09. Mae'n codi'r cwestiwn ynghylch pam mae rhai economïau'n yn fwy abl i wrthsefyll sioc economaidd, neu'n adfer yn gryfach, nag eraill yn ôl pob tebyg. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn yr hinsawdd bresennol o ansicrwydd economaidd. Yn […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Tachwedd 13, 2019
Projects Datblygiad arweinyddiaeth y sector gyhoeddus - darpariaeth bresennol ac ymagwedd ryngwladol Mae Prif Weinidog Cymru eisiau asesiad annibynnol o sut gall gwasanaethau cyhoeddus Cymru sicrhau bod datblygiad arweinyddiaeth ar gyfer eu staff yn paratoi arweinwyr y presennol a'r dyfodol i fod yn effeithiol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod arweinwyr y dyfodol gyda phrofiad eang o bob rhan o’r sector cyhoeddus, yn ogystal â sgiliau ac […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Tachwedd 1, 2019
Projects Opsiynau ar gyfer pysgodfeydd cynaliadwy yng Nghymru a mesurau rheoli stociau pysgota ar ôl datganoli Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi eu hymagwedd at bysgodfeydd ar gyfer os/pan mae'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Maent gyda diddordeb penodol mewn cyfleoedd ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys terfynau cwota a di-gwota, er mwyn cyflawni eu ‘cyfradd deg’ o ddyraniadau ac i reoli stociau pysgod er budd cymunedau arfordirol yng Nghymru. Mae […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Tachwedd 1, 2019
Projects Effaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar safbwyntiau llunwyr polisïau a'r defnydd o dystiolaeth yng Nghymru Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) yn gorff brocera gwybodaeth. Ei brif nod yw gwella prosesau llunio polisïau cyhoeddus, dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, drwy hyrwyddo diwylliant ac ymagweddu tuag at ddefnyddio tystiolaeth. Mae'n gweithio gydag academyddion ac arbenigwyr i ddarparu tystiolaeth ymchwil o safon uchel a chyngor annibynnol i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus […] Rhagor o wybodaeth Tachwedd 1, 2019
Projects Ymchwil ac effaith Brocera gwybodaeth a chyrff brocera gwybodaeth Bu twf sylweddol yn nifer y cyfryngwyr tystiolaeth neu'r cyrff brocera gwybodaeth sydd rhwng ymchwil a llywodraeth ac sy'n ceisio pontio'r ‘bwlch’ ymddangosiadol rhwng tystiolaeth a pholisi. Mae mwy ohonynt wedi codi oherwydd tybiaeth allweddol y mudiad llunio polisïau wedi'u llywio gan dystiolaeth (EIPM): y bydd mwy o dystiolaeth yn arwain at bolisïau gwell. Gellir […] Rhagor o wybodaeth Ymchwil ac effaith: Rôl KBOs Rôl KBOs Tachwedd 1, 2019
Projects Canfyddiadau Cynghorau Cymru o lymder Gan ddefnyddio cyfweliadau gydag arweinwyr cynghorau Cymru, prif weithredwyr, cyfarwyddwyr cyllid, a rhanddeiliaid allanol, mae’r astudiaeth yn ymchwilio i ymateb cynghorau Cymru i lymder. Daw i’r amlwg fod cynghorau wedi ymateb i lymder mewn tair prif ffordd: drwy wneud arbedion effeithlonrwydd; drwy leihau’r angen am wasanaethau cyngor; a thrwy newid rôl cynghorion a rhanddeiliaid eraill. […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Ebrill 10, 2019
Projects Goblygiadau polisi ymfudo’r DU ar economi Cymru ar ôl Brexit Gan adeiladu ar ein gwaith blaenorol ar bolisi mewnfudo ar ôl Brexit, mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar effaith debygol polisïau ymfudo Llywodraeth y DU ar economi Cymru. Yn benodol, rydym yn gweithio gyda’r Athro Jonathan Portes o Goleg y Brenin, Llundain, i fodelu effeithiau yr argymhellion o adroddiad Pwyllgor Cynghori ar gyfer Ymfudo (MAC) […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Ebrill 10, 2019
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Ymgysylltu cyhoeddus ar drawsffurfiad iechyd a gofal cymdeithasol Mae’r prosiect hwn yn datblygu sut y gall ymrwymiadau i ymgysylltu cyhoeddus yng nghynllun “Cymru Iachach” Llywodraeth Cymru gael eu gwireddu yn ymarferol. Y cwestiwn rydym yn helpu i’w ateb yw: pa rôl sydd gan ymgysylltu cyhoeddus o ran cyflawni’r deilliannau a nodwyd yn y cynllun? Mae ein dull gweithredu yn cynnwys cyfuniad o adolygiadau […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Anghydraddoldebau iechyd Mawrth 6, 2019
Projects How can policy commissions maximise their impact? In this short project, we examined the question ‘what makes a Welsh Government Commission effective?’ What impact can they have upon devolved policy making and public services? And in Westminster and Whitehall? Is it possible to distill critical success factors? The work was intended to inform the work of the Commission on the Future of […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Awst 21, 2018
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Cefnogi gwelliant mewn byrddau iechyd Mae ceisio atal neu newid tanberfformiad mewn sefydliadau iechyd yn dipyn o her, ac mae llawer o’r llenyddiaeth academaidd yn canolbwyntio ar drafodaethau cyffredinol a haniaethol. Mae'r prosiect hwn yn cyfuno gwybodaeth gan academyddion ac ymarferwyr arbenigol am yr hyn sy'n effeithiol, ac o dan ba amodau, wrth gefnogi'r bwrdd iechyd. Mae deall sut i […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Anghydraddoldebau iechyd Awst 21, 2018
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Ymateb i ddinasyddion sydd mewn dyled i wasanaethau cyhoeddus Nod y prosiect hwn oedd canfod sut gall gwasanaethau cyhoeddus a’u partneriaid dan gontract yng Nghymru ymateb yn well i ddyledwyr sy’n agored i niwed, yn enwedig y rheiny allai gael eu herlyn a’u carcharu. Ein prif ffocws oedd dau fath o ddyled y mae gan wasanaethau cyhoeddus Cymreig rywfaint o reolaeth drostynt: dyledion treth […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Tlodi ac allgáu cymdeithasol Awst 21, 2018
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Sicrhau bod prifysgolion yn gwneud y cyfraniad dinesig mwyaf posibl Edrychodd y prosiect hwn ar opsiynau polisi posibl er mwyn annog prifysgolion Cymru i flaenoriaethu a chynyddu eu cyfraniadau dinesig at les cymdeithasol ac economaidd cymunedau Cymru. Fe wnaeth yr adroddiad, sydd i’w weld yma, adolygu’r ymagweddau at genadaethau dinesig yn rhyngwladol, yn ogystal â'r goblygiadau i Gymru yng ngoleuni'r cyd-destun polisi domestig. Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Awst 21, 2018
Projects Yr amgylchedd a sero net Strategaethau a thechnolegau ar gyfer gwella ansawdd yr aer Mae’r prosiect yn adolygiad cyflym o gamau sydd ar waith ledled y byd er mwyn gwella ansawdd yr aer. Mae’n dynodi’r dystiolaeth sydd y tu ôl i wahanol strategaethau a thechnolegau ar gyfer mynd i’r afael â llygredd yn yr aer ac mae’n rhoi astudiaethau achos o ddinasoedd sydd ymhlith y goreuon o ran ansawdd […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Awst 21, 2018
Projects Cynyddu Effaith Rhwydwaith What Works ledled y DU Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda What Works yn yr Alban, Prifysgol y Frenhines Belfast, y Gynghrair dros Dystiolaeth Ddefnyddiol ac amrywiaeth o Ganolfannau What Works i gynyddu effaith y rhwydwaith What Works ar draws y Deyrnas Unedig, mewn prosiect sy’n cael ei ariannu gan yr ESRC. Mae’r prosiect yn cynnwys cynnal cyfres […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Awst 20, 2018
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Tlodi Gwledig yng Nghymru Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi tlodi gwledig fel maes â blaenoriaeth o ran tystiolaeth, ac mae ein gwaith dadansoddi rhagarweiniol ein hunain o’r ymchwil bresennol wedi cadarnhau bod angen tystiolaeth well er mwyn mynd i’r afael â’r mater pwysig hwn. Rhagor o wybodaeth Pynciau: Tlodi ac allgáu cymdeithasol Mehefin 13, 2018
Projects Tystiolaeth i Arweinwyr Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch Caffael Cyhoeddus Mae hwyluso pŵer caffael yn faes diddordeb sy’n tyfu. Mae sector cyhoeddus Cymru’n gwario tua £6 biliwn y flwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith, ond tybir yn eang fod lle i wasanaethau cyhoeddus gael gwerth ychwanegol o’r gwariant hwn drwy ddulliau caffael strategol. Mae arbenigwyr ar draws nifer o’n haseiniadau wedi galw ar Weinidogion Llywodraeth […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Mehefin 7, 2018
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru Mae Gweinidogion wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gynnal tri darn o waith sy'n rhoi arbenigedd a thystiolaeth annibynnol i lywio'r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd (GER), a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog ar y pryd yn 2018: Adolygiad rhyngwladol o bolisïau ac arferion cydraddoldeb rhywedd; Gweithdy arbenigol i archwilio'r hyn y gall Cymru ei […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Amrywiaeth a chynhwysiant Mai 11, 2018
Projects Gwella Prosesau Asesu Effaith Y farn sinigaidd ar asesu effaith yw ei fod yn rhesymoli penderfyniadau polisi sydd eisoes wedi cael eu gwneud. Ond, pan wneir hyn yn effeithiol, gall helpu i lywio polisi a chefnogi dulliau effeithiol o graffu ar y penderfyniadau a wnaed yn ystod y broses honno. Gofynnodd y Prif Weinidog i ni adolygu prosesau asesu […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Ebrill 26, 2018
Projects Yr amgylchedd a sero net Twf Cynhwysol yng Nghymru Er y gall Cymru hawlio rhai llwyddiannau economaidd yn y gorffennol diweddar, nid yw manteision hyn wedi cael eu dosbarthu'n gyfartal, ac mae gan lunwyr polisi fwy o ddiddordeb mewn ffyrdd o sicrhau 'twf cynhwysol'. Gwnaethom ddod ag arbenigwyr ynghyd i drafod sut y gallai Cymru fwrw ymlaen â model mwy cynhwysol. Mae cynllun Llywodraeth […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Ebrill 26, 2018
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Gwella Canlyniadau Iechyd a Chyflogaeth Er bod diweithdra'n isel yng Nghymru ar hyn o bryd o gymharu â'r degawdau diwethaf, mae anweithgarwch economaidd oherwydd salwch yn dal i fod yn uchel. Er mwyn cydnabod hyn, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i helpu pobl i aros yn y gwaith a dychwelyd i'r gwaith. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai'r ffordd fwyaf effeithiol […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Ebrill 26, 2018
Projects Pennu'r Sylfaen Drethu yng Nghymru Gofynnodd y Prif Economegydd a swyddogion y Trysorlys yn Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, gynnal adolygiad lefel uchel o gryfder y sylfaen drethu yng Nghymru. Mae'r adolygiad wedi dadansoddi maint a chynaliadwyedd y sylfaen drethu sy'n ategu'r prif drethi datganoledig sy'n denu refeniw […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Ebrill 26, 2018
Projects Gwella Gwaith Trawsbynciol y Llywodraeth Mae strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb', yn ceisio ysgogi proses o integreiddio a chydweithio ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi pwysleisio y dylid cyflawni ymrwymiadau'r strategaeth mewn ffordd fwy deallus a chydgysylltiedig sy'n croesi ffiniau traddodiadol. Mae'r her i gydgysylltu'n well ar draws meysydd […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Ebrill 26, 2018
Projects Yr amgylchedd a sero net Dyfodol Gwaith yng Nghymru Yn ei araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn 2016, gofynnodd y Prif Weinidog, y Gwir Anrh Carwyn Jones, am ymchwiliad dwfn a thrylwyr i natur newidiol gwaith. Er mwyn braenaru'r tir ar gyfer hyn, gofynnwyd i ni adolygu'r sail dystiolaeth bresennol er mwyn ymchwilio i'r hyn sy'n hysbys ac sy'n anhysbys am ddyfodol gwaith […] Rhagor o wybodaeth Ebrill 26, 2018
Projects Yr amgylchedd a sero net Dulliau o Alluogi Unigolion i Gamu Ymlaen yn eu Swyddi mewn Sectorau Sylfaenol Allweddol Mae sectorau sylfaenol yr economi yn darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd, megis cyfleustodau, prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu, iechyd, addysg, llesiant, gofal cymdeithasol a seilwaith. Er ein bod yn dibynnu ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt, mae'n aml yn anodd i'r bobl sy'n gweithio yn y sectorau hyn wella […] Rhagor o wybodaeth Ebrill 26, 2018
Projects Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Llwybrau Atal Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc Mae mynd i'r afael â digartrefedd, a lleihau'r risg o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn benodol, yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Wrth lansio cynghrair Cymru ar gyfer rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn 2017, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai'n gofyn i ni ymchwilio i achosion digartrefedd ymhlith pobl ifanc a ffyrdd […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Tai a chartrefi Ebrill 26, 2018
Projects Yr amgylchedd a sero net Brexit a Chymru – Tir a Môr Mae'r prosiect hwn yn archwilio goblygiadau posibl Brexit ar bysgodfeydd, amaethyddiaeth ac ardaloedd gwledig yng Nghymru. Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Chwefror 13, 2018