Uncategorized @cy

Archwilio rôl cydweithio rhwng sawl sector ym maes trafnidiaeth yng Nghymru

Mae trafnidiaeth yn un o’r ffactorau hanfodol sy’n galluogi llesiant cymdeithasol a thwf economaidd. Er mwyn cyflawni ei holl allu i alluogi, mae angen i drafnidiaeth fod yn integredig, dibynadwy, fforddiadwy, o ansawdd da ac effeithlon.   

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi bod ar daith drawsnewid i symud y tu hwnt i fod yn weithredwr rheilffyrdd i fod yn ddarparwr trafnidiaeth integredig, aml-ddull sy’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o annog pobl i wneud penderfyniadau trafnidiaeth sy’n gynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru a TrC wrthi’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu’r newid diwylliannol sydd ei angen i sicrhau’r newid hwn.  

Yn unol â’r weledigaeth hon, roedd Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) i edrych sut gallai Llywodraeth Cymru a TrC gynyddu llais rhanddeiliaid wrth wneud penderfyniadau ynghylch trafnidiaeth (gan gynnwys gweithwyr, y gymuned a rhanddeiliaid perthnasol eraill). Roedd hyn wedi gwneud i ni ymchwilio i sut y gellir ysgogi partneriaethau a chydweithio rhwng sawl sector i ddiwallu anghenion trafnidiaeth integredig a chynaliadwy yng Nghymru.  

Dyma’r cwestiynau ymchwil arweiniol a ystyriwyd gennym:   

  • Pa rôl allai’r gymuned (gan gynnwys cludiant cymunedol a chynlluniau trafnidiaeth a rennir) ei chwarae o ran gwireddu system drafnidiaeth integredig?  
  • A oes enghreifftiau o fodelau sefydliadol sy’n galluogi cymunedau a gweithwyr i gael sedd fwy ystyrlon wrth y bwrdd?   
  • Pa bolisïau y gall Llywodraeth Cymru eu hystyried er mwyn gallu cael cyfranogiad a llais gweithwyr a’r gymuned yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch trafnidiaeth?  

Ym mis Ebrill 2024, fe wnaethom gynnal cyfarfod bwrdd crwn diwrnod llawn i roi Llywodraeth Cymru a TrC mewn trafodaethau gydag arbenigedd academaidd ac arbenigedd ar sail ymarfer. Roedd y cyfarfod bwrdd crwn yn defnyddio’r dystiolaeth a’r arferion gorau cyfredol i lywio syniadau a chamau gweithredu TrC a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol wrth iddynt ddatblygu eu polisïau trafnidiaeth a’u cynlluniau cyflawni dros y flwyddyn nesaf.  

Roedd canfyddiadau’r bwrdd crwn yn dangos bod cydweithio rhwng sawl sector yn meddu ar ran allweddol i'w chwarae er mwy gwireddu system drafnidiaeth integredig. Roedd y cyfranogwyr yn galw am gysylltu, sefydlu, canoli a hyd yn oed wreiddio trafnidiaeth yn y gymuned. Gall partneriaethau a chydweithio rhwng sawl sector fod yn fecanwaith ar gyfer gweithredu cydgynhyrchiol, cyd-greadigol a chydweithredol.  

Dyma’r tri chynnig gwerth allweddol a ddaeth i’r amlwg: 1) cefnogi’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cenedlaethol i ymateb i angen; 2) cyrraedd y rhai sydd ar hyn o bryd wedi’u heithrio neu nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol ar lefel fwy lleol; a 3) cefnogi’r newid diwylliannol ac ymddygiadol sy’n angenrheidiol er mwyn newid dulliau teithio gan fod cydweithwyr yn aml yn nes at wir anghenion a chymhellion y bobl y maent yn eu gwasanaethu a’u cefnogi ac yn y sefyllfa orau i gynghori ar strategaethau a’u cyd-ddarparu.  

Roedd y diwrnod wedi creu’r camau gweithredu nesaf i Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru symud tuag at wreiddio cydweithio rhwng sawl sector ym maes trafnidiaeth yng Nghymru. Daeth tri maes gweithredu i’r amlwg: 

  • Cydlunio gweledigaeth alluogi i arwain y sector tuag at ddiben cyffredin; 
  • Canfod a threialu arferion galluogi sy’n rhannu atebolrwydd a chyfranogiad mewn penderfyniadau am drafnidiaeth;  
  • Buddsoddi mewn, a datblygu, pensaernïaeth alluogi i ddod â’r weledigaeth a’r arferion at ei gilydd.  

Mae ein Crynodeb Gweithredol yn diffinio pob un o’r meysydd hyn ymhellach, yn mapio saith blaenoriaeth ar eu traws, ac yn darparu rhai camau gweithredu a argymhellir. Rydym hefyd wedi cyhoeddi cyfres o astudiaethau achos sy’n tynnu sylw at yr arferion gorau yng Nghymru ac yn rhyngwladol o ran cyfranogiad aml-sector mewn trafnidiaeth.  

Gall partneriaethau a chydweithio rhwng sawl sector fod yn fecanwaith ar gyfer gweithredu cydgynhyrchiol, cyd-greadigol a chydweithredol. 

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.