Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yng Nghymru (UPFSM), a hynny fel rhan o’i Chytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru yn y lle cyntaf. I gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r polisi hwn, gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gynnal ymchwil a oedd yn edrych ar y canlynol:
- Deall y ‘gyfradd fesul uned’ neu’r gost fesul pryd ar gyfer UPFSM, a sut mae wedi newid dros amser;
- Y costau a’r manteision ehangach sy’n gysylltiedig â’r polisi; a
- Sut gallai UPFSM ryngweithio â meysydd polisi eraill a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Aethom ati i gynnal ymarfer casglu data yn ystod gwanwyn a haf 2023, gan ddangos bod costau wedi cynyddu rhwng 2019 a 2023 yn unol â’r pwysau o ran chwyddiant yn yr economi ehangach ar y pryd. Roedd ein hymchwil yn cefnogi penderfyniad dilynol Llywodraeth Cymru i godi’r gyfradd fesul uned o £2.90 i £3.20.
Paratôdd Dr Jonathan James o Brifysgol Caerfaddon adolygiad tystiolaeth yn dangos y gall y polisi UPFSM fod yn fuddiol, yn enwedig os caiff ei gyflawni gyda safonau maethol cryf ar gyfer y prydau a ddarperir. Yn yr achosion hyn, mae manteision i ganlyniadau iechyd dysgwyr ac (mewn rhai achosion) i’w cyrhaeddiad, yn ogystal â manteision yn nes ymlaen mewn bywyd. Roedd yr adolygiad tystiolaeth yn ystyried ymyriadau polisi o sawl gwlad, yn enwedig y cynnig prydau ysgol am ddim i’r holl fabanod yn Lloegr; y rhaglen prydau ysgol am ddim yn Sweden; a rhaglenni yn yr Unol Daleithiau.
Atgyfnerthwyd hyn yn ein trafodaeth bwrdd crwn, a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2024, lle roedd arbenigwyr wedi pwysleisio pwysigrwydd cael cynnwys maethol iach ynghyd ag amgylchedd prydau ysgol cadarnhaol er mwyn sicrhau manteision. Daeth arbenigwyr o bob rhan o’r DU at ei gilydd ar gyfer y bwrdd crwn, gan gynnwys academyddion, swyddogion y llywodraeth, ymarferwyr a rhanddeiliaid ehangach. Roedd y drafodaeth bwrdd crwn hefyd wedi ystyried i ba raddau y gall UPFSM fynd i’r afael â thlodi a stigma tlodi, yn ogystal â manteision tymor hwy’r polisi.