Uncategorized @cy

Codi oedran cyfranogi mewn addysg i 18

Yn Lloegr, codwyd oedran gorfodol cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant i 17 oed yn 2013 ac wedyn i 18 oed yn 2015. Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, oedran gadael yr ysgol yw 16. Mae'r syniad o godi oedran cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant yn ennill ei blwyf yng nghyd-destun yr Alban, yn ogystal ag yng Nghymru.

Cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ymchwil ar gyfer Llywodraeth Cymru i archwilio goblygiadau dilyn y polisi hwn yng Nghymru. Ystyriodd yr ymchwil y modd y gallai Codi’r Oedran Cyfranogi (RPA) ryngweithio â diwygiadau parhaus i oedran ysgol a darpariaethau ôl-16 yng Nghymru, ac archwiliodd bolisïau amgen sy'n canolbwyntio ar ostwng nifer y disgyblion sy’n gadael yr ysgol yn gynnar, yn hytrach na pholisïau sy'n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i bobl ifanc aros mewn dysgu am gyfnodau hirach.

Er mwyn archwilio'r materion uchod, aeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ati i gomisiynu’r canlynol:

  • Adolygiad o lenyddiaeth bwrdd gwaith i edrych ar dystiolaeth ryngwladol ansoddol mewn perthynas â manteision a heriau RPA, yn ogystal â pholisïau amgen.
    • Er mwyn deall y modd y byddai'r polisi hwn yn rhyngweithio â diwygiadau polisi cyfredol ac arfaethedig yng Nghymru, cynhaliwyd nifer bach o gyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol yn Llywodraeth Cymru ac yn y sector addysg a hyfforddiant ehangach.
  • Dadansoddiad meintiol i fodelu effaith RPA yng Nghymru, pe bai'n cael ei weithredu, o gymharu â llinell sylfaen o lefelau cyfranogiad gwirfoddol cyfredol yn 17 a 18 oed.

Yn gyffredinol, mae'r dystiolaeth ansoddol o wledydd eraill i gefnogi deddfwriaeth sy'n codi'r oedran cyfranogi mewn dysgu yn wan. Mae profiad rhyngwladol yn dangos effaith gadarnhaol fach ar gyrhaeddiad o ran cymwysterau, cyfraddau diweithdra ac enillion yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae'r effaith ar wella cyfraddau cadw mewn dysgu ôl-16 yn amheus. Ar sail y dystiolaeth, byddai RPA yn cynhyrchu buddion cyfyngedig i’r bobl ifanc hynny sy’n ymgysylltu leiaf â dysgu.

Mae'r dadansoddiad meintiol yn cefnogi'r canfyddiadau hyn, gan ddangos bod unrhyw fudd economaidd a ddarperir gan RPA yn dibynnu'n fawr ar lefel y cydymffurfedd â'r polisi. Ym mhob senario a gyflwynir, mae'r dadansoddiad yn awgrymu y byddai peidio â darparu opsiynau i'r bobl ifanc hynny y bydd y polisi'n effeithio arnynt, er mwyn eu denu i aros mewn addysg neu hyfforddiant, yn arwain at gyraeddiadau ychwanegol dibwys a manteision economaidd bach cymesur. Gallai hyn hefyd effeithio ar eu cymhelliant i gymryd rhan mewn dysgu yn y dyfodol.

Mae'r cwricwlwm newydd i Gymru a'r diwygiadau arfaethedig mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (PCET) yn cynnig llwyfan ar gyfer newid er mwyn annog mwy o gyfranogiad mewn addysg ôl-16, a rhagor o gydymffurfedd â’r addysg honno. Mae adeiladu ar brofiad gwledydd yr OECD yn amlygu’r angen i ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Atal cynnar;
  • Cefnogi ac ymgysylltu â dysgwyr cyn-16 oed sy'n cael anawsterau;
  • Monitro'r rhai sy’n wynebu risg;
  • Cynnig llwybrau o ansawdd da i'r rhai sy'n llai dawnus yn academaidd; a
  • Cynnig cymorth ychwanegol ar gyfer dysgu ar ddiwedd yr ysgol uwchradd.

Yn hollbwysig, dylid ymestyn y cynnig hwn o fewn yr arena ôl-16.

Gan roi ystyriaeth i’r ddeddfwriaeth gyfredol ac arfaethedig yn y gofod addysg a hyfforddiant ôl-16 (e.e. gweithredu'r cwricwlwm newydd i Gymru a'r diwygiadau addysg PCET arfaethedig), mae'r argymhellion yn cynnwys y canlynol:

  • Canolbwyntio ar leihau cyfraddau gadael cyn gorffen ôl-16, a chyflwyno strategaeth i leihau gadael (yr ysgol) yn gynnar;
  • Darparu cynnig ôl-16 cydlynol a chyson sy'n cyd-fynd ag amcanion y cwricwlwm newydd i Gymru;
  • Cefnogi newydd-ddyfodiaid cynnar i’r farchnad lafur a chryfhau eu mynediad at ddysgu parhaus; a
  • Darparu cyllid parhaus ar gyfer mentrau atal ac ailintegreiddio sy’n cael eu targedu at bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.