Uncategorized @cy

Cydweithio amlsector i wella llesiant cymunedol

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) a’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar (RCP) wedi bod yn cydweithio ar ymchwil i ddeall yn well beth yw rôl cydweithio amlsector wrth gefnogi gweithredu cymunedol a lles cymunedol.

Roedd dau gam i’r prosiect:

Roedd cam un yn cynnwys adolygiad o dystiolaeth yn defnyddio astudiaethau achos sy'n seiliedig ar ymarfer, llenyddiaeth lwyd o’r DU, a llenyddiaeth academaidd a gyhoeddwyd ers dechrau’r pandemig Covid-19 ar sut mae cydweithio amlsector yn dylanwadu ar weithredu a llesiant cymunedol. Mae crynodeb o’r dystiolaeth ar y pwnc hwn o gyn y pandemig, a ddatblygwyd gan Brifysgol Leeds Beckett, wedi cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r prif adroddiad.

Nododd yr adolygiad tystiolaeth ystod o gamau gweithredu sy'n helpu i ddatblygu cydweithio amlsector i gefnogi gweithredu a llesiant cymunedol. Mae’r camau hyn yn cael eu categoreiddio’n weithgareddau sy’n helpu i ddatblygu pwrpas cyffredin o fewn trefniadau cydweithio, trefniadau llywodraethu sy’n hyblyg ac yn esblygu drwy weithredu tuag at gyflawni’r pwrpas cyffredin hwnnw, a mecanweithiau ariannol sy’n cefnogi cydweithio

Roedd cam dau yn cynnwys gweithdy i ymgysylltu â’r prif ganfyddiadau o'r adolygiad tystiolaeth, archwilio eu perthnasedd i wahanol gyd-destunau ymarfer a pholisi, ac ymgorffori profiad ac arbenigedd sy'n seiliedig ar ymarfer yn y sylfaen dystiolaeth. Darllenwch bapur cefndir y gweithdy yma.

Mae'r canfyddiadau o'r adolygiad tystiolaeth a'r gweithdy wedi cael eu datblygu'n adroddiad - 'Cydweithio amlsector i wella llesiant cymunedol'.

Mae canfyddiadau’r adolygiad tystiolaeth a’r gweithdy wedi cael eu datblygu’n adnodd ‘Fframwaith ar gyfer Gweithredu’ gyda’r nod o helpu i nodi camau gweithredu diriaethol y mae modd eu cymryd mewn gwahanol gyd-destunau i ddatblygu cydweithio amlsector sy’n gwella gweithredu a llesiant cymunedol. Yn hytrach na dim ond disgrifio sut beth yw cydweithio amlsector da, ei nod yw amlinellu rhai opsiynau ar gyfer ei gyflawni.

 

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.