Uncategorized @cy

Dulliau rhyngwladol o reoli darpariaeth lleoliadau i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau adolygiad o'r dystiolaeth ryngwladol am ddulliau rheoli darpariaeth lleoliadau i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, gan nodi meysydd allweddol i'w dadansoddi ymhellach.

Rydym yn nodi pum maes dargyfeirio allweddol rhwng y gwledydd a astudiwyd a fyddai'n addas i'w hastudio ymhellach:

  • Y cydbwysedd rhwng ailuno a sefydlogrwydd.
  • Cynnwys llais plant a theuluoedd wrth wneud penderfyniadau am leoliadau.
  • Y cydbwysedd rhwng darpariaethau gwladwriaethol a phreifat a darpariaethau'r trydydd sector.
  • Y mathau o wasanaethau lleoli.
  • Dulliau comisiynu strategol.

Er bod gwahaniaethau pwysig rhwng y gwledydd a astudiwyd, maent i gyd yn wynebu llawer o heriau tebyg. Er enghraifft, roedd pryder ym mhob gwlad am gostau gofal a nifer y lleoliadau addas sydd ar gael. Ni ellir dweud bod unrhyw wlad wedi 'datrys' problem comisiynu strategol.

Darllenwch ein holl waith ar blant sy'n derbyn gofal yma.

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.