Mae'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), a gyflwynwyd i'r Senedd ym mis Mawrth 2025, yn nodi newid sylfaenol yn y ffordd y mae gwasanaethau bysiau'n cael eu cynllunio a'u darparu yng Nghymru. Mae'n cynnig disodli'r model dadreoleiddio a gyflwynwyd gan Ddeddf Trafnidiaeth 1985 â system 'ailreoleiddio', gan roi'r pŵer i Weinidogion Cymru a Trafnidiaeth Cymru (TrC) ddylunio a chomisiynu rhwydweithiau o wasanaethau bysiau ledled y wlad.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru, i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddarparu tystiolaeth ar ffactorau llwyddiant allweddol wrth gontractio a dyfarnu masnachfreintiau bysiau. Bydd yr ymchwil yn cyfrannu at ddatblygu is-ddeddfwriaeth o'r Bil Bysiau sydd ar y gweill a gwaith parhaus Trafnidiaeth Cymru i roi masnachfreinio bysiau ar waith.
Nod ein hymchwil yw ateb dau gwestiwn cyffredinol:
- Ym maes masnachfreinio bysiau, pa arferion neu nodweddion contractio a dyfarnu sy'n dangos addewid o ran cyflawni'r gwelliannau ansawdd a'r canlyniadau polisi a ddymunir ar yr un pryd â sicrhau gwerth am arian?
- Sut gall contractio, gan gynnwys cymhellion, helpu i alluogi: newid dulliau teithio drwy gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau; sero net; integreiddio trafnidiaeth; a lleihau tlodi trafnidiaeth?
I archwilio'r rhain, cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyfres o wyth sesiwn 'tynnu sylw' at dystiolaeth gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a TrC rhwng mis Mawrth a mis Mai 2025. Roedd y rhain yn cynnwys pum astudiaeth achos sy'n seiliedig ar ymarfer a chanolbwyntio ar dair her polisi, gan ddefnyddio arbenigedd academaidd ac ymarferwyr o bob rhan o'r DU ac yn rhyngwladol.
Rydym wedi cyhoeddi tri chanlyniad allweddol o'r ymchwil:
- Prif adroddiad; sy'n crynhoi prif ganfyddiadau'r sesiynau tynnu sylw;
- Pedwar papur gwyntyllu wedi'u hysgrifennu gan arbenigwyr sy'n cynnig gwybodaeth fanwl wedi'i theilwra i gyd-destun Cymru a;
- Casgliad o ‘gipolygon’ o astudiaethau achos rhyngwladol; yn cofnodi dulliau contractio a dyfarnu gwasanaethau bysiau a'r gwersi allweddol a ddysgwyd.
Fel y dengys y dystiolaeth a gasglwyd drwy'r prosiect hwn, mae amrywiaeth o ddulliau o dendro a chontractio gwasanaethau bysiau yn bodoli ar draws systemau trafnidiaeth gyhoeddus yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn hytrach nag ailadrodd modelau presennol i ddatblygu masnachfreinio bysiau yng Nghymru, mae'r dystiolaeth yn tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru a TrC wneud y canlynol:
- Datblygu dull masnachfreinio bysiau sy’n unigryw i Gymru gan ddefnyddio arferion gorau rhyngwladol;
- Hwyluso proses bontio i fasnachfreinio bysiau sydd wedi'i chynllunio a'i rheoli'n dda a fydd yn gofyn am y canlynol: 1) ymgysylltu helaeth ac ystyrlon â gweithredwyr i harneisio eu gwybodaeth fasnachol, a 2) parhau i feithrin cymhwysedd TrC fel rheoleiddiwr bysiau ac awdurdod canolog, gyda digon o amser, adnoddau a chymorth i gyfateb i raddfa'r her.
- Datblygu model masnachfreinio bysiau clir a chydweithredol wedi'i ategu gan lywodraethu cadarn sy'n gallu addasu a gwella'n barhaus. Pwysleisiodd arbenigwyr bwysigrwydd y canlynol: (1) datblygu partneriaethau dibynadwy gyda gweithredwyr drwy ymgysylltu parhaus, a (2) datblygu contractau a threfniadau llywodraethu clir sy'n osgoi gormod o ffurfioldeb a gor-reoli.
Y prif argymhellion arbenigol mewn perthynas â masnachfreinio bysiau yng nghyd-destun sero net, cynyddu symudedd gwledig, a mynd i'r afael ag anfantais drafnidiaeth oedd:
- Gwneud teithio ar fysiau yn fwy deniadol er mwyn cynyddu nifer y defnyddwyr ac annog newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus.
- Sefydlu gweledigaeth strategol glir - gan gynnwys nodau, pwrpas ac egwyddorion - i lywio'r gwaith o gynllunio a gwneud penderfyniadau.
- Gwella dyluniad ac integreiddiad y rhwydwaith i gefnogi teithio di-dor ar draws dulliau trafnidiaeth confensiynol ac anghonfensiynol.
- Asesu amodau lleol ac anghenion defnyddwyr ar draws grwpiau ac ardaloedd daearyddol i dargedu adnoddau lle mae eu hangen fwyaf.
- Sicrhau sefydlogrwydd ariannol i weithredwyr, gan gynnwys mesurau i wella fforddiadwyedd gwasanaethau bysiau.
- Datblygu partneriaethau i oresgyn ansicrwydd yn y sector.