Rhwng Tachwedd 2023 ag Ebrill 2025, roedd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cynnig Cymrodoriaeth wedi’i ariannu gan ESRC am 18 mis. Y bwriad oedd ystyried sut mae arbenigwyr drwy brofiad yn gallu cymryd rhan yn ystyriol wrth baratoi gwybodaeth sy’n helpu i lunio polisi ac ymarfer.
Er bod dulliau mwy sefydledig o gynnwys pobl sy’n arbenigwyr yn sgîl eu profiad wrth baratoi gwybodaeth mewn perthynas â pholisi iechyd, mae’r math hwn o ymarfer yn weddol newydd mewn meysydd polisi eraill, ac mae safbwyntiau ac arferion yn amrywio ar draws sefydliadau brocera gwybodaeth. Ac felly, roedd y Gymrodoriaeth hon yn ceisio datgelu gwybodaeth am arferion a allai wella dealltwriaeth ac arferion yn y maes hwn ymysg rhwydwaith What Works a sefydliadau brocera gwybodaeth eraill.
Dyma brif allbynnau’r Gymrodoriaeth:
- Dadansoddiad o gyfweliadau gyda Chanolfannau What Works a chanolfannau tystiolaeth eraill;
- Adolygiad cyflym gan ddefnyddio bwrdd gwaith o dystiolaeth ar arferion presennol a dulliau cyfranogiad; a
- Nodyn cryno sy’n tynnu sylw at y goblygiadau allweddol i arferion ymhlith sefydliadau brocera gwybodaeth.
At ei gilydd, roedd ein hymchwil wedi canfod bod nifer cynyddol o sefydliadau brocera gwybodaeth yn cynnwys pobl sy’n arbenigwyr yn sgîl eu profiad yn eu gwaith oherwydd y gwerth y mae hynny’n ei roi i’r broses o baratoi gwybodaeth ac, yn y pen draw, oherwydd yr effaith mae hyn yn ei gael. I rai, mae’r cymhelliant yn fwy cynhenid ac yn seiliedig ar yr awydd i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eu harferion ac i fod yn ymarferol mewn modd mwy democrataidd.
Fodd bynnag, er gwaethaf y manteision posibl hyn, mae hefyd yn cyflwyno risgiau sylweddol posibl i bobl sy’n arbenigwyr yn sgîl eu profiad a sefydliadau brocera gwybodaeth. Ac felly, dylai’r dull hwn gael ei ddefnyddio o dan amodau penodol yn unig. Gall sefydliadau brocera gwybodaeth gymryd camau i feithrin yr amodau hynny os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny. A hefyd, dylai sefydliadau brocera gwybodaeth ystyried yr egwyddorion ymarfer canlynol wrth weithio gyda phobl sy’n arbenigwyr yn sgîl eu profiad.
- Ystyried a sicrhau arferion moesegol o ran diogelu, annibyniaeth, profiad, taliadau, cymorth a chaniatâd;
- Sicrhau eglurder a thryloywder ynglŷn â bwriad, rôl a lefel y cyfranogiad;
- Sicrhau bod perthynas ddwyochrog ac ar sail ymddiriedaeth yn cael ei ddatblygu gyda phobl sy’n arbenigwyr yn sgîl eu profiad, fel eu bod yn cael profiad cadarnhaol ac yn elwa o hynny;
- Neilltuo digon o adnoddau ac amser ac ystyried y dull hwn o’r cychwyn cyntaf;
- Sicrhau bod llwybr at effaith o’r cychwyn cyntaf; a
- Ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o ran pwy sy’n gallu cymryd rhan, pam a sut.
Roedd y Gymrodoriaeth hon yn gydweithrediad rhwng y Cymrawd (Dr Rounaq Nayak), Dr Katie Crompton (Cynorthwyydd Ymchwil), Dr Alex Jones (Cynorthwyydd Ymchwil), Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a thair Canolfan What Works arall – y Ganolfan Heneiddio’n Well, Sefydliad Dyfodol Ieuenctid a’r Ganolfan Effaith Digartrefedd. Rhoddwyd cyngor arbenigol gan Sarah Campbell, Pennaeth Cyfranogiad Sefydliad Joseph Rowntree, gyda chymorth y Ganolfan Tystiolaeth Polisi Caethwasiaeth Fodern a’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol.