Uncategorized @cy

Meithrin Cyswllt Athrawon â Thystiolaeth Ymchwil

Gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’r Ganolfan adolygu’r dystiolaeth ynghylch y ffordd orau o hwyluso ymwneud athrawon ag ymchwil. Ar y cyd â chydweithwyr yn y Ganolfan Tystiolaeth am Wybodaeth Polisi ac Ymarfer a Chydlynu (EPPI-Centre) yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL), rydym wedi:

  • Adolygu a chydgrynhoi’r hyn sy’n hysbys am yr hyn sy’n gweithio wrth geisio meithrin cyswllt athrawon â thystiolaeth, a’u defnydd ohoni.
  • Dechrau creu darlun o’r mentrau sydd ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru (yn enwedig ar lefel genedlaethol a rhanbarthol) sy’n ceisio meithrin cyswllt athrawon â thystiolaeth, a’u defnydd ohoni.
  • Cynnig awgrymiadau ynghylch sut y gellir hwyluso a gwella ymwneud athrawon â thystiolaeth a’u defnydd ohoni yng Nghymru yn y tymor byr, y tymor canol a’r tymor hir.
To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.