Mae Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol yn galluogi llywodraethau ac unigolion/sefydliadau gwleidyddol nad ydynt yn rhan o’r wladwriaeth i brynu unedau carbon gwirfoddol i wrthbwyso allyriadau wrth ariannu gweithgareddau lliniaru a datrysiadau ar sail natur. Mae’r Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol hyn yn cael eu hystyried fwyfwy fel adnoddau i gefnogi nodau hinsawdd, i adfer ecosystemau ac i ddarparu manteision ehangach o ran datblygu cynaliadwy. Ar yr un pryd, mae heriau’n codi yn eu sgil o ran uniondeb, perfformiad ac ychwanegedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddarparu tystiolaeth ar sut mae gwledydd eraill wedi datblygu polisïau, cynlluniau a rheoliadau perthnasol er mwyn llywodraethu Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol yn well, a dangos sut y gellid rhoi’r gwersi hyn ar waith yng Nghymru. Comisiynodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru LSE Consulting, gan ddefnyddio staff o Sefydliad Ymchwil Graham ar Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, i adolygu dulliau rhyngwladol o adnabod opsiynau polisi.
Gofynnwyd i ni edrych ar y canlynol:
- Sut mae llywodraethau eraill wedi datblygu polisïau, cynlluniau a rheoliadau ar gyfer marchnadoedd carbon gwirfoddol, gan gynnwys egwyddorion uniondeb, integreiddio â dulliau datgarboneiddio, ffyrdd o ddileu ac osgoi nwyon tŷ gwydr, cyfrif am unedau masnachol a darparu cyd-fanteision.
- Risgiau a chanlyniadau anfwriadol Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol, a strategaethau i’w lliniaru.
- Sut y gallwn roi’r gwersi a ddysgwyd mewn gwledydd eraill ar waith yng Nghymru, yn unol â'r nodau hinsawdd a llesiant.
Mae ein hadroddiad yn cynnwys dadansoddiad o bedair astudiaeth achos – Awstralia, y Ffindir, Portiwgal a’r Alban - ac yn adlewyrchu strwythurau llywodraethu amrywiol, aeddfedrwydd y farchnad, a’r potensial ar gyfer mesurau lliniaru ar y tir.
Mae’r achosion yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o ddulliau amrywiol a ddefnyddir wrth ymdrin â Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol ac yn dangos beth yw’r gwersi cyffredin a ddysgwyd:
- Gall Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer gweithgareddau lliniaru, yn enwedig ym maes atafaelu carbon ac adferiad byd natur, ond ychwanegu at leihad allyriadau domestig yw’r bwriad nid eu disodli.
- Mae pwyslais cynyddol yn cael ei roi ar gyd-fanteision amgylcheddol, lle rhoddir ystyriaeth i farchnadoedd carbon a natur ar y cyd.
- Llywodraethiant cadarn, integreiddio â pholisïau sy’n ymwneud â defnydd tir, dangos ychwanegedd clir ac osgoi cyfrif ddwywaith.
Mae’r briff polisi cysylltiedig yn crynhoi’r gwersi ymarferol ar gyfer sut gall Cymru ymgysylltu â Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol i ddatblygu eu nodau newid hinsawdd a natur, a hynny wrth gyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac ymrwymiadau net sero Cymru. Mae’r blaenoriaethau allweddol yn cynnwys integreiddio Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol â pholisi defnydd tir, cysoni safonau gyda fframweithiau’r DU/UE, a lleihau cymhlethdodau drwy sicrhau cysondeb â chynlluniau presennol y DU. Mae rhoi egwyddorion trawsnewid cyfiawn ar waith yn allweddol er mwyn sicrhau bod Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol yn cefnogi cymunedau gwledig, yn creu swyddi o ansawdd da ac yn datblygu ymddiriedaeth y cyhoedd.
Cynhalion ni gyfarfod bwrdd crwn ym mis Gorffennaf 2025 gydag academyddion, swyddogion o Lywodraeth Cymru a chynrychiolydd o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd. Roedd y drafodaeth yn atgyfnerthu rôl y Marchnadoedd Carbon Gwirfoddol wrth gefnogi nodau datgarboneiddio ac addasu Cymru. Pwysleisiodd y cyfranogwyr yr angen i sicrhau ychwanegedd ac uniondeb credyd, i ysgogi’r galw wrth ddiogelu uniondeb hawliadau, i sefydlu strwythurau llywodraethu cadarn a chlir ac i wneud y mwyaf o'r cyd-fanteision ym maes hinsawdd a natur ac mewn cymunedau. Cafwyd cyfle hefyd i drafod modelau arloesol, fel banc carbon canolog i reoli risg, atebolrwydd a sut mae pethau’n cael eu gweithredu.