Economi, Datgarboneiddio a Sgiliau

Trosglwyddiad sero net dan arweiniad awdurdod lleol

Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i gyflawni sero net ar gyfer y sector cyhoeddus erbyn 2030. Ond, bydd y pwysau cyllidebol presennol yn sector cyhoeddus Cymru, ac ar awdurdodau lleol yn benodol, yn gwneud y dasg o wireddu’r uchelgais hwn yn arbennig o heriol.

Er mwyn cefnogi uchelgais 2030, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cydlynu rhaglen cymorth trawsnewid ac adfer yn sgil newid yn yr hinsawdd, ac yn gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru adolygu’r dystiolaeth ar bolisïau a dulliau gweithredu mewn gwledydd a rhanbarthau eraill sy’n ymwneud â thrawsnewid i sero net dan arweiniad awdurdodau lleol. Mae ein hadolygiad yn canolbwyntio ar ddau brif faes:

  1. Sut gall awdurdodau lleol flaenoriaethu camau gweithredu ar newid yn yr hinsawdd.
  2. Atebion cyllido arloesol i gefnogi awdurdodau lleol i drawsnewid i sero net.

Er mwyn denu buddsoddiad, mae angen i awdurdodau lleol gael strategaeth sy’n amlinellu sut y bydd nodau newid yn yr hinsawdd yn cael eu cyflawni, erbyn pryd, ac ar ba gost, gan flaenoriaethu camau gweithredu i wneud y gorau o’u hadnoddau a’u capasiti cyfyngedig. Mae uchelgais sero net Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus yn canolbwyntio ar weithrediadau’r cynghorau eu hunain (allyriadau bwrdeistrefol), a fydd yn gofyn am symiau mawr o fuddsoddiad cyfalaf ymlaen llaw i ddatgarboneiddio adeiladau a fflyd, er enghraifft. Fodd bynnag, efallai y bydd awdurdodau lleol yn gallu lleihau allyriadau’n sylweddol am gost is drwy ganolbwyntio yn lle hynny ar allyriadau eraill yn eu hardal leol, fel allyriadau gan drigolion a busnesau. I wneud hyn yn llwyddiannus, bydd gofyn am ymdrechion parhaus i ddylanwadu ar weithredwyr eraill gan fod awdurdodau lleol yn tueddu i fod â llai o reolaeth uniongyrchol dros yr allyriadau hyn.

Er mwyn ariannu’r trawsnewid i sero net, mae awdurdodau lleol wedi dibynnu, yn nodweddiadol, ar ddulliau traddodiadol yn y gorffennol. Wrth ystyried y pwysau ariannol ar gyllideb Llywodraeth Cymru a llai o gapasiti i roi benthyg mewn llwybrau eraill, bydd angen mathau arloesol o gyllid nawr i gyflawni uchelgais 2030 o ran maint a chyflymder. Rydym yn cyflwyno enghreifftiau o ddulliau arloesol o gael gafael ar gyllid, gan gynnwys cyfleoedd buddsoddi cyfun gan grwpiau o awdurdodau lleol, bondiau hinsawdd lleol, a phosibiliadau eraill nad ydynt wedi’u rhoi ar waith ar raddfa fawr eto yn y DU.

Bydd rhannu’r hyn a ddysgir ac arferion gorau ar draws awdurdodau lleol hefyd yn hanfodol yn y ddau faes er mwyn meithrin gallu a chefnogi’r gwaith o weithredu polisïau effeithiol i leihau allyriadau.

To top
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.