Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn pontio’r bwlch rhwng ymchwil a gwneud penderfyniadau drwy wneud tystiolaeth drylwyr ac arbenigedd yn hygyrch, yn berthnasol, ac yn ymarferol i lunwyr polisïau, ymarferwyr ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
Ein gweledigaeth:
Cymru lle mae polisïau ac ymarfer cyhoeddus yn cael eu llunio’n gyson gan y dystiolaeth a’r wybodaeth orau sydd ar gael, gan arwain at wasanaethau cyhoeddus sy’n fwy effeithiol, cyfiawn ac ymatebol.
Ein cenhadaeth:
NODI. Rydyn ni’n gweithio ar y cyd â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i’w helpu i adnabod eu heriau polisi mwyaf difrifol a llunio cyfleoedd ystyrlon er mwyn creu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
YMGYNNULL. Rydyn ni’n dadansoddi ac yn cyfosod ymchwil o safon uchel mewn modd amserol ac rydyn ni’n dwyn ynghyd arbenigwyr yn y DU ac yn fyd-eang i wella penderfyniadau polisi, a’r broses o’u rhoi ar waith.
DATBLYGU. Rydyn ni’n ehangu gwybodaeth ym maes polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy rannu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu, gwerthuso effaith, a chyfrannu at gronfa wybodaeth gynyddol o'r hyn sy'n gweithio'n ymarferol.
Ein gwaith:
Rydyn ni wedi datblygu tri maes blaenoriaeth yn seiliedig ar ddadansoddi’r heriau polisi mwyaf sy'n wynebu llunwyr polisïau lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Ein tri maes blaenoriaeth yw: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau; lles cymunedol; a’r amgylchedd a sero net. Ochr yn ochr â'r rhain, rydyn ni’n arwain cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Mae gennyn ni 12 mlynedd o brofiad o lunio polisïau yng Nghymru, gan gefnogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau gyda thystiolaeth ac arbenigedd annibynnol a llunio polisïau a dulliau o’u gweithredu mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys yr amgylchedd, cyfiawnder cymdeithasol, llywodraethu, iechyd ac addysg. Rydyn ni hefyd yn cadw’r hyblygrwydd a’r arbenigedd i allu ymgymryd â phrosiectau ymchwil eraill mewn ymateb i anghenion tystiolaeth llunwyr polisïau.
Ymchwil ac Effaith:
Mae ein holl waith i lunwyr polisïau yng Nghymru wedi’i seilio ar ymchwil academaidd sy'n arwain y sector ar yr hyn sy'n pontio'r bwlch rhwng ymchwil a llunio polisïau.
Ein harianwyr:
Rydyn ni’n cael ein hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd a’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal ac rydyn ni’n aelod o Rwydwaith ‘What Works’ y DU a Rhwydwaith y Prifysgolion ar gyfer Ymgysylltu â Pholisi.